Rhidian Jones

Rhidian Jones  sy’n awgrymu y dylai’r clwb godi’r ffôn ar Dwayne Peel…

Mae wastad yn braf gweld buddugoliaeth annisgwyl ym myd chwaraeon, a phan fo cyswllt Cymreig gan y buddugwr, gorau i gyd.

Ar ôl curo Bryste nos Fercher yn rownd derfynol y bencampwriaeth mae Cymry Llundain yn ail-ymuno â’r mawrion yn Uwchgynghrair Lloegr, a thrwy hynny yn tynnu blewyn o drwyn y rheiny ar top table rygbi Lloegr a drïodd eu gorau glas i gadw’r Cymry mas ddwy flynedd nôl.

Doedd Cymry Llundain yn amlwg heb ddarllen y sgript cyn y ddwy gêm yn erbyn Bryste i benderfynu pwy oedd yn esgyn i’r uwchgynghrair.

Roedd Bryste wedi ennill eu 13 gêm ddiwethaf yn y bencampwriaeth, wedi arwyddo llu o enwau mawr ar gyfer tymor nesaf (gan gynnwys y Cymry rhyngwladol Ryan Jones, Dwayne Peel a Matthew Morgan), wedi recriwtio dau Gymro – Sean Holley a Danny Wilson – i gyd-hyfforddi gydag Andy Robinson, ac yn symud ym mis Medi i stadiwm fawr Ashton Gate.

Ond llwyddon nhw ddim i groesi’r rhwystr olaf, sef curo Cymry Llundain dros ddau gymal, ac ar ôl arwain y gynghrair am y rhan fwyaf o’r tymor mae’n rhaid teimlo ‘bach o drueni dros Fryste. Ond dim ond ‘bach.

Does gan y Cymry, dan hyfforddiant Justin Burnell, ddim sêr mawr ond roedden nhw’n ddygn, yn taclo popeth ac yn barod i wrthymosod pan oedd cyfle. Bydd hi’n ddiddorol gweld sut fyddan nhw’n ymdopi yn ôl yng nghwmni Caerlŷr, Northampton a’r Saracens. Mae’n debygol taw gorffen – neu hedfan – yn uwch na Hebogiaid Newcastle fydd y nod.

Dyw carfan Cymry Llundain ddim yn arbennig o Gymreig erbyn hyn ond Cymry yw’r prif hyfforddwr, yr uwch-swyddogion, a mwyafrif y cefnogwyr, er bod ymgyrch ar waith i ddenu cefnogwyr o Swydd Rydychen ers symud i’w cartref newydd nhw yn y Kassam.

Tro gwael

Cafodd Cymry Llundain eu trin yn sâl yn 2012 wrth i Undeb Rygbi Lloegr gyhoeddi – cwta tair awr cyn gêm dyngedfennol y Cymry yn erbyn Morladron Cernyw – na fyddan nhw’n cael esgyn am nad oedden nhw’n berchen ar eu cae chwarae. Cyhoeddodd Cadeirydd Cymry Llundain, y bargyfreithiwr Bleddyn Phillips, eu bwriad i herio’r penderfyniad trwy wrandawiad llys a daeth buddugoliaeth yno.

Er na chafon nhw fawr o gyfle i baratoi a recriwtio ar gyfer y tymor newydd llwyddon nhw i ddal eu tir ac mae’n bosib y bydden nhw wedi aros i fyny petai’r RFU heb ddisgyn fel gordd arnyn nhw unwaith eto – cosb o bum pwynt cynghrair am chwarae chwaraewr anghymwys, a hynny ar ôl i Gymry Llundain eu hunain dynnu sylw’r undeb i’r mater.

Ar ôl hynna i gyd mae’n braf gweld Cymry Llundain yn ôl yn yr haen uchaf y tymor nesa, a gobeithio’r tro yma gallan nhw aros yno. Byddan nhw’n cwrdd â chlybiau ariannog iawn ond fel y dangoson nhw yn erbyn Bryste, mae cymeriad ac ysbryd yn gallu bod yn arfau deche hefyd.

Y trueni, o safbwynt Cymreig, yw na fydd y Cymry gafodd eu harwyddo gan Fryste yn chwarae ar y lefel uchaf y tymor nesaf. Ond mae’n bosib daw gwaredigaeth – mae Gleision Caerdydd yn ceisio perswadio Bryste i ryddhau Matthew Morgan o’i gytundeb tra bod sôn bod gan Dwayne Peel amod yn ei ryddhau o’i gytundeb gan fod Bryste wedi methu dringo i’r uwchgynghrair. Ddoe dywedodd Justin Burnell fod angen iddyn nhw recriwtio rhwng 12 a 15 o chwaraewyr newydd – gwerth rhoi galwad ffôn i Dwayne efallai?