Cafodd gobeithion tîm rygbi dan 20 Cymru o gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Ieuenctid y Byd ergyd ar ôl colli 21-35 i’r Iwerddon.

Yr Iwerddon oedd ar y blaen ar hanner amser o 17-14 wedi i Rory Burke a Garry Ringrose groesi’r llinell a thirio’r bêl  Cais Tyler Morgan a chais cosb oedd yn gyfrifol am bwyntiau Cymru yn yr hanner cyntaf.

Rhoddodd cais James Benjamin Gymru ar y blaen o 21-17 yn gynnar yn yr ail hanner cyn i’r Iwerddon sgorio 18 pwynt o’r bron.

Cafodd Peter Dooley a Alex Wootton o’r Iwerddon a Jack Dixon o Gymru eu hanfon i’r cell callio yn ystod y gêm.