Mae Pontypridd wedi ennill uwchgynghrair y Principality a chyflawni’r dwbwl am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bythefnos ar ôl ennill y cwpan yn erbyn Cross Keys, cododd Pontypridd dlws yr uwchgynghrair heddiw yn erbyn yr un gwrthwynebwyr, a hynny gerbron torf sylweddol ar Heol Sardis. 38-17 oedd y sgôr derfynol.

Dywedodd y capten Dafydd Lockyer fod y dwbwl yn deyrnged i brop y clwb, Stuart Williams, a fu farw’n sydyn ym mis Hydref ac yntau’n 33 oed.

Roedd golwg flinedig ar Cross Keys, a chwaraeodd gêm ragbrawf yn erbyn Quins Caerfyrddin er mwyn cyrraedd y ffeinal yn erbyn y tîm a orffennodd ar frig y gynghrair.

Rhuthrodd Pontypridd 31-0 ar y blaen cyn i eilyddion Cross Keys ddod ymlaen i roi hwb i’r tîm a pharchuso’r sgôr ychydig.