Gavin Henson
Mae canolwr Caerfaddon, Gavin Henson, wedi cael ei gynnwys yn y garfan o chwaraewyr sy’n debygol o fynd ar daith i Dde Affrica.

Nid yw Henson, 32, wedi chwarae dros Gymru ers iddo gael ei anafu yn chwarae yn erbyn Lloegr mewn gem baratoi cyn Cwpan y Byd yn 2011.

Bydd dau dîm o chwaraewyr Cymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar Mai 30. Bydd un tîm yn cynnwys y chwaraewyr sy’n debygol o gael eu dewis ar gyfer taith Cymru i Dde Affrica mis nesa a’r tîm arall yn cynnwys rhai fydd efallai’n cael eu dewis.

Mae Gavin Henson wedi cael ei enwi ymhlith carfan y rhai sy’n debygol o gael eu dewis o dan arweiniad  Alun-Wyn Jones.  Bachwr y Gleision, Matthew Rees, yw capten yr ail dîm.

Carfan Gatland

Mae disgwyl i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, enwi’r garfan fydd yn mynd i Dde Affrica yn ystod ei gynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm brawf yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Nid oes unrhyw sicrwydd, fodd bynnag, y bydd Henson a chwaraewyr sy’n chwarae gyda chlybiau yn Ffrainc neu Loegr  yn cael eu rhyddhau ar gyfer y gêm.

Nid oes rhaid i glybiau yn Lloegr a Ffrainc ryddhau chwaraewyr gan nad yw’r gêm yn gêm brawf swyddogol fel y nodir gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Ac mae Warren Gatland eisoes dan bwysau oherwydd bod llawer o chwaraewyr wedi eu hanafu ac yn methu mynd i Dde Affrica. Mae’r rhain yn cynnwys Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Justin Tipuric, Scott Williams a Richard Hibbard.

Mae 12 o chwaraewyr sydd heb ennill cap wedi eu henwi yn y ddwy garfan ar gyfer y gêm brawf. Mae’r rhain yn cynnwys Sam Davies o’r Gweilch,  Owen Evans o’r Dreigiau,  Owen Williams o Gaerlŷr a Kristian Dacey a Macauley Cook o’r Gleision.

‘Ennill eu lle’

Meddai Rob Howley o dîm hyfforddi Cymru: “Mae’r prawf yn gyfle gwych i ni i weld pob un o’r chwaraewyr hyn yn agos a bydd yn caniatáu iddynt frwydro yn erbyn ei gilydd.

“Mae’n mynd â ni yn ôl at ddyddiau’r treialon traddodiadol ac fe fydd yn rhoi cyfle i rai ohonynt ennill eu lle.  Bydd y ddwy ochr yn mynd amdani a bydd gan y chwaraewyr bwynt i’w brofi.”