Owain Gwynedd
Fydd gêm dreial yn fawr o gysur ar ddiwedd tymor siomedig ar bob lefel o rygbi Cymru, yn ôl Owain Gwynedd …

Mae penwythnos olaf y Pro12 wedi cyrraedd. Hynny yw i ranbarthau Cymru, gan nad oes yr un wedi bod digon da i orffen ymysg y pedwar uchaf a hawlio safle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Mae adeg yma’r tymor yn amlwg yn gyfle i dimau adlewyrchu ar ei pherfformiadau ac yn bwysicach oll ym mhle maen nhw wedi gorffen yn y tabl.

Cyn y rownd olaf o gemau fel hyn mae’r rhanbarthau yn sefyll:

5ed – Gweilch, 61 pwynt

6ed – Scarlets, 51 pwynt

7fed – Gleision, 41 pwynt

10fed – Dreigiau, 31 pwynt

Wrth ystyried mai Munster sydd ar frig y tabl efo 78 pwynt mae’r bwlch rhwng ein rhanbarthau a’r brig yn enfawr. Yn syml iawn mae rhywun yn gallu dadansoddi bod tymor pob rhanbarth wedi bod yn siomedig.

Heb fynd trwy’r canlyniadau efo crib man i bob rhanbarth, un tîm sydd wedi bod yn ddraenen yn eu hochr nhw i gyd, ac yn pwysleisio ffaeleddau’r rhanbarthau, ydi Zebre, yn enwedig yn Parma.

Mi wnaeth pob rhanbarth heblaw’r Dreigiau, sydd yn syndod yn ei hun (a chofiwch mai gêm gyfartal un unig gawson nhw), wedi colli i’r Eidalwyr. Tîm a gollodd pob gêm yn y Pro12 llynedd.

Fe fydd rhaid meddwl yn hir ac yn galed sut a pham bod tîm o’r Eidal wedi gallu gwella cymaint, a bod pob un o’n rhanbarthau ni wedi mynd am yn ôl.

Gall rhywun ddadlau bod Y Dreigiau wedi dechrau’r tymor yn dda ond mi wnaeth y bybl yna fyrstio yn aruthrol yn dilyn y flwyddyn newydd – unwaith eto nhw ydi’r tîm gwanaf o Gymru.

Felly pam ein bod ni mor wael?

Does dim un rheswm, ond cyfuniad sydd yn estyn hyd braich:

  • Sgil effeithiau Taith Y Llewod
  • Anghydfod rhwng y rhanbarthau a’r URC
  • Chwaraewyr gora’ yn chwarae dramor
  • Hyfforddiant y rhanbarthau ar adegau ddim digon da (yn ôl rhai chwaraewyr)
  • Dyfnder talent yng Nghymru, wel, ddim yn ddwfn o gwbl
  • Chwaraewyr heb berfformio / ddim mor dda ag y maen nhw’n meddwl eu bod nhw

… ac yn y blaen.

Y gwirionedd yw tydi o heb fod ddigon da ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn mae’r effeithiau wedi taro’r tîm rhyngwladol, Undeb Rygbi Cymru a’r cefnogwyr yn y wir fan lle mae o’n brifo.

Dwi ddim ond yn gallu gobeithio bod y clychau wedi canu ac yn parhau i atseinio mor uchel yng nghlustiau pawb sydd yn gyfrifol am ein gêm bod angen i gyd weithio ar y lefel rhanbarthol a rhyngwladol i fod yn llwyddiannus ar bob lefel.

Y gobaith yw bod y cefnogwyr yn cael trafod y rygbi a mwynhad y gêm yn fwy na siarad am y cecru gwleidyddol oddi arno.

Mi oedd gemau’r penwythnos yma a phenwythnos ‘Millenium Magic’ ychydig wythnosau yn ôl wedi cael eu hadeiladu fel treialon answyddogol i’r chwaraewyr i blesio hyfforddwyr Cymru ac i ennill lle yn y garfan i herio De Affrica yn yr haf.

Hynny ydi nes i URC gyhoeddi bod yna dreialon swyddogol am fod cyn y daith beth bynnag. Y cyntaf o’i fath ers 14 mlynedd – dyddiau Graham Henry.

Dwi wrth fy modd yn gwylio’r probables v possibles yn Seland Newydd a fedrai ddim ond gobeithio bod ein fersiwn ni am fod yn debyg.

Cyfle i weld pa dalent ifanc sydd ar gyrion y garfan ac yn cael eu hystyried am y daith. Yna gallu profi eu hunain wyneb yn wyneb efo’r person sydd yn hawlio’r crys coch yn barod.

Yn dilyn tymor llwm o leiaf mae rhywbeth i edrych ymlaen ato tua’r diwedd.

Gemau’r penwythnos:

Dreigiau v Treviso

Gweilch v Connacht

Scarlets v Gleision