Mae Cymru wedi ychwanegu gêm ganol wythnos yn ystod eu taith i Dde Affrica.  Bydd y daith yn cynnwys dau brawf ond cyn hynny byddan nhw yn chwarae yn erbyn Eastern Province Kings ar ddydd Mawrth y 10fed o Fehefin.

Bydd carfan Warren Gatland yn dechrau’r daith yn Stadiwm Neslon Mandela yn Port Elizabeth.  Bydd yn gyfle iddyn nhw roi’r paratoadau olaf yn eu lle cyn y prawf cyntaf.

‘‘Bydd y gêm o gymorth mawr i ni cyn taith hynod o anodd.  Yr ydym yn gobeithio mynd â charfan fwy na’r arfer ac fe fydd gennym gyfle i edrych ar bob chwaraewr ac i roi cyfle i bob aelod o’r garfan.  Mae hyn yn bwysig wrth gofio am gystadleuaeth Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf,’’ meddai Gatland.

Bydd Cymru yn teithio i Growthpoint Kings Park yn Durban ar gyfer y prawf cyntaf ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin.  Ymhen yr wythnos byddan nhw’n chwarae  ail brawf yn Stadiwm Mbombela yn Nelspruit.

Bydd De Affrica yn cael gêm baratoi hefyd yn erbyn Tîm y Byd ar 7 Mehefin.