Craig Mitchell
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi canmol cyfraniad prop y Gweilch, Craig Mitchell i’r tîm rhyngwladol. 

Gyda’r Llew Adam Jones yn dychwelyd i chwarae yn dilyn saith wythnos ar yr ystlys gydag anaf i’w benelin, roedd yna alwadau ar Gatland i gynnwys Jones yn y garfan i wynebu Iwerddon dydd Sadwrn. 

 Ond fe benderfynodd hyfforddwr Cymru beidio â chymryd risg gyda ffitrwydd Jones, gan gadw’i ffydd yn hytrach yn Mitchell. 

 “Mae Adam heb chwarae llawer o rygbi – dim ond rhai munudau.  Ond mae hyn yn dangos ein ffydd yn Craig Mitchell a’r gwaith mae wedi cyflawni,” meddai Warren Gatland. 

 “Dw i ddim yn credu ei fod wedi cael digon o glod am ei waith o amgylch y cae.  Mae wedi bod yn wych o ran y nifer o ryciau mae wedi eu taro a’r nifer o daclau mae wedi eu gwneud. 

 “Ry’n ni i gyd yn gwybod beth mae Adam yn gallu gwneud, ond ry’n ni’n meddwl am yr hir dymor gyda chryfder mewn dyfnder ar gyfer Cwpan y Byd.”

 Mae Warren Gatland wedi awgrymu y gallai Adam Jones chwarae rhan yng ngêm olaf y gystadleuaeth yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar 19 Mawrth. 

 “Mae’n bosibiliad y gallai Adam chwarae rhan yn erbyn Ffrainc.  Ond mae’n anodd taflu chwaraewr sydd heb chwarae am tua wyth wythnos yn ôl mewn i’r tîm.”