Mae hyfforddwr merched Cymru, Kris de Scossa, wedi gwneud tri newid i’r tîm gollodd i’r Eidal i wynebu Iwerddon ar Barc Pandy ddydd Sul. 

Mae’r mewnwr Amy Day yn cymryd lle Laura Prosser yn yr unig newid i’r llinell gefn. 

Mae yna ddau newid ymysg y blaenwyr gyda’r bachwr Rhian Bowen yn cymryd lle Lowri Harries tra bod Jamie Kift yn dychwelyd i’r tîm yn lle Vicky Owens. 

Fe fydd Prosser, Harries ac Owens yn dechrau ar y fainc gydag Awen Thomas hefyd ymysg yr eilyddion wrth i Yasmin Leung ddisgyn allan o’r garfan. 

“Ry’n ni wedi bod yn edrych ar y pethau oedd ddim yn gweithio yn erbyn yr Eidal.  Mae’r ymarferion wedi mynd yn dda,” meddai Kris de Scossa. 

“Mae’r garfan yn edrych yn gryf ac ry’n ni’n ffyddiog o wneud yn dda.  Ond  ry’n ni’n ymwybodol mai Iwerddon yw’r ffefrynnau gan eu bod nhw’n dîm cryf.

“Ry’n ni’n gobeithio cael torf dda ym Mharc Pandy ac y bydd y cefnogwyr yn cael gêm i’w gofio am amser hir.”

Carfan Merched Cymru

Cefnwyr- Aimee Young (Caerfaddon); Mared Evans (UWIC); Adi Taviner (Castell-nedd Athletig), Elen Evans (Dolgellau); Kerin Lake (Castell-nedd Athletig); Elinor Snowsill (Quins Caerdydd), Amy Day (Cross Keys). 

Blaenwyr- Jenny Davies (Waterloo), Rhian Bowden (Cross Keys), Catrin Edwards (Quins Caerdydd), Shona Powell Hughes (Castell-nedd Athletig), Ashley Rowlands (Wasps), Lisa Newton (UWIC), Jamie Kift (Cross Keys), Sioned Harries (UWIC).

Eilyddion- Lowri Harries (Castell-nedd Athletig), Caryl Thomas (Caerfaddon), Vicky Owens (UWIC), Rachel Taylor (Quins Caerdydd), Laura Prosser (Pontyclun), Awen Thomas (Cross Keys), Caryl James (Quins Caerdydd).