James Hook
Mae James Hook wedi ei ddewis i chwarae yn safle’r maswr yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.

Mae canolwr y Scarlets, Jonathan Davies, yn dychwelyd i’r canol ar ôl methu’r gêm yn erbyn yr Eidal gydag anaf.

Fe fydd chwaraewr y Gleision, Leigh Halfpenny, yn dechrau ar yr asgell, tra bod Morgan Stoddart o’r Scarlets yn disgyn i’r fainc.

Dyna’r unig newidiadau i’r tîm gychwynnodd yn erbyn yr Eidal ddeg diwrnod yn ôl.

Fe fydd Mike Phillips a Ryan Jones yn ennill eu 50fed cap yn erbyn y Gwyddelod.

Fe fydd Warren Gatland yn dewis ai Rob McCusker, Andy Powell neu Jonathan Thomas fydd ymysg yr eilyddion yn dilyn profion ffitrwydd ddydd Iau.

“Mae’n gêm allweddol i ni. Fe fyddai buddugoliaeth yn cynnal ein gobeithion o ennill y Bencampwriaeth,” meddai Gatland.

“Ond fe fydd yn gêm fawr i Iwerddon hefyd gan eu bod nhw yn yr un safle a ni.”

Carfan Cymru

Cefnwyr- Lee Byrne (Gweilch), Leigh Halfpenny (Gleision), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), James Hook (Gweilch), Mike Phillips (Gweilch).

Blaenwyr- Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau ), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion- Richard Hibbard (Gweilch ), John Yapp (Gleision), Dwayne Peel (Sale), Stephen Jones (Scarlets), Morgan Stoddart (Scarlets) ac hefyd dau o Rob McCusker (Scarlets), Andy Powell (Wasps), Jonathan Thomas (Gweilch).