Declan Kidney
Mae hyfforddwr Iwerddon, Declan Kidney, wedi rhybuddio ei chwaraewyr eu bod nhw’n wynebu tîm Cymreig sydd wedi gwella’n sylweddol ers dechrau’r Chwe Gwlad. 

Mae Cymru wedi curo’r Alban a’r Eidal ers colli yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth.

Ond methodd y Cymry ag ennill yn erbyn y Gwyddelod yn eu dwy ymgais olaf yng Nghaerdydd, yn 2009 a 2007.

Mae’r ddau dîm wedi edrych yn beryglus â’r bêl yn eu dwylo ond mae camgymeriadau elfennol a diffyg disgyblaeth wedi bod yn drech â nhw ar adegau.

“Yn anffodus mae Cymru’n gwella,” meddai Declan Kidney. “Roedd ganddyn nhw gêm anodd yn erbyn Lloegr ac fe aeth pethau o chwith iddyn nhw.

“Ond maen nhw wedi datblygu’n dda ers hynny. Mae eu hamddiffyn nhw yn llawer cryfach, yn sicr. Mae ganddyn nhw amddiffyn ymosodgar ac mae hynny’n arf pwysig iddyn nhw.

“Mae Caerdydd yn le gwych i chwarae ond rwy’n siŵr y bydd Cymru’n awyddus i ennill ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf yno yn ein herbyn.

“Ond fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar chwarae ein gêm ein hunain. Mae angen i ni gadw’r meddiant yn well er mwyn lleihau’r pwysau ar yr amddiffyn.”

Dywedodd Declan Kidney fod gan Gymru ac Iwerddon le i wella ar eu disgyblaeth, ac wrth beidio â gwneud camgymeriadau gwirion.