Warren Gatland - ai hanner gwên yw honna?
Y cyfryngau dros y dŵr heb ymateb yn dda o gwbl i’r grasfa yn erbyn Cymru, yn ôl Illtud Dafydd…

Gan ystyried bod cyfryngau Ffrainc yn llawn o sôn am Gamp Lawn bosib yn ystod yr wythnos cyn y gêm nos Wener ddiwethaf, mae’r ymateb wedi’r golled i’r Cymry ymysg y cyfryngau a chyn-chwaraewyr les Bleus wedi bod yn nodweddiadol o’r clichés Ffrengig.

Teitl L’Equipe ar fore Sadwrn oedd ‘Penolau coch’ gyda llun mawr o Sam Warburton yn brwydro gyda Pascal Pape am feddiant mewn sgarmes symudol.

Fe ysgrifennodd cyn-gapten Ffrainc Fabien Galthie (64 cap ac sydd nawr yn hyfforddi Montpellier), a oedd yn rhan o dîm darlledu France 2 yn ystod y gêm, yn y papur chwaraeon dyddiol bod Ffrainc wedi dangos “diffyg uchelgais”, gan ychwanegu “na ymosododd Ffrainc fel tîm fyddai’n medru ennill Camp Lawn”.

Roedd ei dymer yn weddol negyddol gan nodi fod chwaraewr Ffrainc yn “cwyno i’r dyfarnwr yn aml sy’n arwydd o chwaraewyr aflonydd anhapus”.

Charnière amhrofiadol

Adlewyrchwyd y neges yma gan Pierre Berbizier (hyfforddwr Ffrainc rhwng 1991 ac 1995) yr wythnos yma ar sianel deledu’r papur, L’Equipe 21, gan ddweud bod Pierre Saint-Andre i’w weld yn drist a’i fod wedi colli’r spontaneity yr oedd ganddo yn ystod y 90au cynnar pan oedd yn aelod o garfan Ffrainc.

Mae lot o’r bai yn cael ei roi ar ieuenctid y tîm gydag ond Pascal Pape a Nicolas Mas dros ddeg ar hugain oed, a bod y charnière (y mewnwr a maswr) o Jules Plisson ac Jean-Marc Doussain mor ifanc ac amhrofiadol ar lefel ryngwladol.

Mae sawl am weld Morgan Parra yn dychwelyd fel mewnwr. Ond wedi iddo benio Rene Ranger yn ystod buddugoliaeth Clermont-Auvergne dros Montpellier dydd Sadwrn diwetha’ a derbyn gwaharddiad gan yr FFR o bythefnos, ni fydd yn wynebu’r Albanwyr yng Nghaeredin wythnos nesaf.

Y dechrau oedd ei diwedd hi

Wrth edrych nôl ar y gêm roedd hi’n fuddugoliaeth weddol hawdd i dîm Warren Gatland, gyda’r gwahaniaeth mewn sgôr o un pwynt ar hugain y mwyaf ers 1950.

Fe benderfynwyd canlyniad y gêm o fewn y chwarter agoriadol gydag 11 pwynt yn cael ei sgorio gan y tîm cartref, Louis Picamoles yn cael ei daclo a’i rhwystro rhag ennill tir gan Alex Cuthbert, a Jean Marc Doussain yn methu cic gosb.

Nid yw Cymru wedi colli i Ffrainc ers tair blynedd ac nid yw’r Ffrancwyr wedi sgorio cais yn ein herbyn ers 2010, record safonol mae’n rhaid dweud.

Ni fygythiodd Ffrainc linell ôl Cymru, gyda Mathieu Bastareaud yn llawer rhy araf ar ei draed i guro George North. Er i Yannick Nyanga geisio cysylltu’r chwarae nid oedd yr un o’i gyd-flaenwyr yn ddigon symudol i’w gynorthwyo.

Problem y Top 14

Daw problemau tîm cenedlaethol Ffrainc o’i chynghreiriau. Mae diffyg Ffrancwyr yn y Top14 ac y ProD2 a hyd yn oed llai yn chwarae yn y safleoedd pwysicaf fel maswr a phrop pen tynn.

Mi fydd yr LNR (Ligue National de Rugby) yn cyflwyno cwota i’r Top14 flwyddyn nesaf, ond yn ystod fy nhymor i yn chwarae yn Ffrainc eleni yn Federale 3 (pumed lefel o rygbi) mae gan bob tîm o leia’ un tramorwr yn eu carfan, boed nhw o Rwmania, Ynysoedd y Môr Tawel neu’n Kiwi.

Jon Fox yn ôl?

Bydd Lloegr yn her hollol wahanol i Gymru, yn enwedig yn Nhwickenham. Ar ôl delio gydag ymosodiad pwerus ond llawn camgymeriadau’r Gwyddelod, mi fydd yn ddiddorol gweld os fydd Jonathan Davies ar gael i Warren Gatland.

Mi fydd Davies yn chwarae dros y Scarlets nos Sadwrn yn erbyn Munster, sydd yn anelu i fod y tîm cyntaf i gwblhau’r Gamp Lawn dros ranbarthau Cymru mewn un tymor.

Gan edrych ar y Top 14 am eiliad bydd Biarritz yn herio Bayonne brynhawn Sul yng ngêm ddarbi Gwlad y Basg. Mwy na thebyg hon fydd gêm ddarbi ola’ Gwlad y Basg yn y Top 14 am flwyddyn, gyda Biarritz yn ymddangos yn sicr o ddisgyn i’r Pro D2 wedi ond pedair buddugoliaeth mewn ugain gêm.

Mae ganddyn nhw chwe gêm i gau’r bwlch o 18 pwynt ar y 12fed safle yn y tabl. Mae Aled Brew i’w weld wedi gwneud y penderfyniad cywir i adael arfordir y Basg cyn i long Serge Blanco suddo i’r Pro D2.

Gallwch ddarllen mwy gan Illtud ar ei flog, neu ei ddilyn ar Twitter ar @IlltudDafydd.