Adam Jones
Mae’r prop, Adam Jones, wedi dweud nad yw’n disgwyl cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar ôl chwarae ei gêm gyntaf i’r Gweilch wedi saith wythnos ar yr ystlys.

Fe ddaeth Jones oddi ar y fainc yn ystod ugain munud olaf y fuddugoliaeth 37-6 yn erbyn Glasgow dros y penwythnos.

Ond mae’r Llew yn credu y byddai’n gam mawr ymlaen i chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon y penwythnos nesaf.

“Fe fyddai’n hapus cael bod yn rhan o’r garfan os ddaw’r alwad. Ond mae’n gam mawr ymlaen o le ydw i ar hyn o bryd,” meddai Adam Jones.

“Mae’n anodd chwarae 20 munud i’r Gweilch ac yna mynd i chwarae yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon”.

“Mae Cymru wedi bod yn gwneud yn dda yn fy absenoldeb beth bynnag, felly dydw i ddim yn disgwyl mynd yn syth yn ôl i mewn i’r tîm.

“Ond os fydd Warren Gatland yn fy ngalw i mewn i’r garfan fe fydda i’n cytuno – ond dw i ddim yn disgwyl galwad.  Dw i’n mynd i ganolbwyntio ar ymarfer gyda’r Gweilch a gwella fy ffitrwydd.”