Owain Gwynedd
Owain Gwynedd sy’n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Les Bleus heno …

Yn fy nau flog diwethaf fe wnes i ddarogan bod Cymru am chwalu’r Eidal ac yna crafu buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon – pa mor anghywir oeddwn i?

Dw i bron â dweud bod Ffrainc am ennill nos Wener yn y gobaith bod y gwrthgyferbyniad o be dw i’n ddarogan yn parhau.

Roedd y golled drom yn erbyn y Gwyddelod o 26-3 yn Nulyn yn agoriad llygad, ac efallai yn gic angenrheidiol ym mhenolau rhai o’r chwaraewyr.

Mike Phillips

Ella fydd y gic fwyaf i fewnwr Racing Metro. Roedd Phillips yn bell o fod ar ei orau yn y ddwy gêm agoriadol ac ella bod yr ornest gorfforol yn erbyn y Gwyddelod wedi cymryd gormod o’i sylw. Fel rheol mae Phillips yn ymateb yn dda i unrhyw feirniadaeth.

Y cwestiwn ar gyfer nos Wener ydi pa mor dda fydd Rhys Webb yn ymateb i’r alwad, ac ydi o’n ddigon da i lenwi sgidiau mawr corfforol Phillips?

Yn ôl Warren Gatland yng nghynhadledd y wasg ddydd Mercher, tydi o ddim eisiau Webb i fod fel Phillips.

Mae o’n gobeithio bydd mewnwr y Gweilch, sydd yn ennill ei chweched cap i Gymru, yn chwarae ei gêm naturiol ef. Does dim llawer o obaith gan unrhyw fewnwr arall yn y byd i fod mor gorfforol â Phillips, felly be ydi pwynt gofyn i unrhyw un drio?

Gêm fwy bywiog a chwim sydd gan Webb, sydd felly’n gwneud i rywun feddwl a fydd newid mewn tactegau gan Gymru? Dw i ddim yn meddwl hynny, yn syml oherwydd bod George North yn ganolwr a chryfder canol cae Cymru ydi eu cryfder corfforol.

Bydd yr ornest gorfforol yng nghanol cae rhwng North, Jamie Roberts a  Mathieu Bastareaud yn aruthrol.

Er perfformiadau calonogol Webb i’r Gweilch yn ddiweddar, rhaid ystyried bod un o rheina yn erbyn tîm gwarthus Treviso, dydw i ddim yn gweld Webb fel olynydd tymor hir Phillips.

Dw i yn ffan o’r mewnwr arall yn y garfan, Rhodri Williams o’r Scarlets, ond efallai bod o ychydig rhy amhrofiadol i gael ei daflu i mewn i gêm mor fawr.

George North

Yn sicr fe fydd y frwydr yn ganol cae yn un gwerth ei gweld. Dw i’n edrych ymlaen at weld North efo’r bêl yn amlach na’r arfer. Mae rhywun yn tybio mae po fwyaf o gyfleoedd geith y cawr o Sir Fôn efo’r bêl yn ei ddwylo, y mwyaf dinistriol fydd o ac mi fydd y cyfleoedd sgorio yn dilyn.

Dw i’n siŵr y bydd y Ffrancwyr yn poeni amdano yn ymosodol ond ddim cymaint yn amddiffynnol.

Mae North wedi chwarae fel canolwr i Northampton cwpwl o weithiau’r tymor yma ac wedi ymarfer yna yn yr wythnosau diwethaf gyda Chymru.

Er hynny tydi o heb chwarae fel canolwr yn rheolaidd ers ei fod o’n 18 ac fe fyddo mwy na thebyg ddim mor gyfforddus yn y safle ag yr oedd o. Yn enwedig pan mae’n wynebu un o ganolwyr gorau’r byd – Wesley Fofana.

Mae gan Fofana yr holl sgiliau sydd eu hangen ar ganolwr. Cyflymder, cryfder, traed chwim, dwylo da ac yn wahanol i North y profiad a’r ddealltwriaeth o bawb a phopeth o’i gwmpas, yn amddiffynnol ac yn ymosodol.

Os ydi Cymru am ennill bydd rhaid i North fod ar ei orau yn amddiffynnol yn erbyn Fofana neu fe fydd noswaith hir o’i flaen.

Yr un fendith am Bastareaud, yn debyg i Jamie Roberts, yw bod rhywun yn gwybod yn union be mae o yn ei gynnig ac felly mae’n haws i’w stopio.

Canlyniad

Mae’r holl hyder sydd gen i yn nhîm Cymru wedi diflannu yn gyflym iawn ar ôl y ddau berfformiad cyntaf ond mae Ffrainc yn bell o fod yn wych hyd yma yn y bencampwriaeth.

Maen nhw wedi cael ambell gyfnod da yn erbyn Lloegr a’r Eidal, ond dim byd i boeni Cymru yn ormodol.

Os ydi Cymru yn chwarae i’w gallu a Ffrainc i’w gallu nhw dw i’n meddwl bydd Cymru yn ennill.

Cymru 23-19 Ffrainc