Illtud Dafydd
Mae un o bapurau chwaraeon mwyaf poblogaidd Ffrainc wedi dweud y bydd angen “sgrym wedi’i wneud o haearn” er mwyn curo Cymru nos Wener, yn ôl blogiwr rygbi golwg360 Illtud Dafydd.

Mae Illtud yn astudio yn Ffrainc ar hyn o bryd, ac wedi bod yn cadw llygad ar gyfryngau’r wlad wrth iddyn nhw drafod y gêm fawr yn y Chwe Gwlad y penwythnos hwn.

Dyw’r Ffrancwyr ddim i’w gweld yn swil o ddangos eu hyder chwaith, gan siarad yn agored am anelu am Gamp Lawn yn dilyn buddugoliaeth eu dwy gêm gyntaf.

Yn eu herthygl olygyddol mae papur Midi Olympique yn proffwydo gêm galed rhwng blaenwyr y ddau dîm, gan orffen wrth ddweud ‘alors on dance’ – “felly fe ddawnsiwn”.

Ac yn ôl Illtud Dafydd, mae’r iaith flodeuog hwn yn nodweddiadol o’r papur.

“Yn ôl eu golygydd ‘nid oes gwir ymosodiadau heb deimlad o goncwest, nid oes timau mawr heb flaenwyr mawr’. Maen nhw’n teimlo bod angen i Ffrainc fod yn barod am frwydr gorfforol,” esboniodd Illtud.

“Ac maen nhw’n dweud bod angen sgrymiau wedi’i gwneud o haearn. Mae Midi’n cael ei adnabod fel papur gyda safon dda o Ffrangeg, a dyna’r math o iaith y maen nhw’n ei ddefnyddio.”

Targedu canol Cymru

Yn ôl Illtud Dafydd mae’r Ffrancwyr i’w gweld yn nerfus ynglŷn â dyfnder eu rheng flaen, gan mai Nicola Mas yw’r unig brop pen tynn yn y tîm ac mai bachwr amhrofiadol sydd ganddyn nhw ar y fainc.

Mae hyfforddwr blaenwyr Ffrainc hefyd wedi awgrymu bod y sgrym yn cael ei ddyfarnu’n wahanol ar y lefel ryngwladol ag y mae hi yng nghynghrair y Top 14.

Ond maen nhw hefyd yn gweld llwyddiant Iwerddon wrth drechu Cymru bythefnos yn ôl fel perfformiad i’w efelychu.

“Mae’r Ffrancwyr yn dweud bod Iwerddon wedi dangos ffordd i guro Cymru, sef newid opsiwn y daliwr yn y lein,” meddai Illtud. “Roedd Iwerddon yn cael pedwar opsiwn gwahanol yn hytrach na’r ddau neu dri rydych chi fel arfer yn gweld.”

“Maen nhw hefyd yn meddwl bod Jamie Roberts yn wan yn amddiffynnol. Fe fethodd e dri o’i saith tacl yn erbyn Iwerddon. Mae Priestland yn cael ei adnabod fel taclwr gwan hefyd, felly efallai eu bod nhw am dargedu’r canol, ac anfon [Wesley] Fofana neu [Louis] Picamoles lawr y sianel.”

A dydi’r Ffrancwyr yn sicr ddim yn sibrwd yn ofalus am eu gobeithion o Gamp Lawn, yn ôl Illtud Dafydd.

“Ar flaen y papur [Midi Olympique] maen nhw’n dweud bod yn ‘rhaid cael trydedd fuddugoliaeth er mwyn parhau ar y daith’ am y Gamp Lawn.”