Munster 38 Dreigiau 17

Roedd y Dreigiau ar y blaen am gyfnod byr yn yr hanner cynta’ ac fe ddaethon nhw o fewn pedwar pwynt ar ddechrau’r ail ond, yn y diwedd, fe gawson nhw’u sgubo o’r neilltu gan y tîm ar frig y Magners.

Ciciau cosb oedd y sgoriau cynta’ gyda’r Dreigiau’n mynd 9-6 ar y blaen trwy dair gan Jason Tovey. Ond fe gryfhaodd Munster yn  yr ail chwarter a chael dau gais gan Doug Howlett i fod 18-9 ar y blaen ar yr egwyl.

O fewn dwy funud, fe ddaeth unig gais y Dreigiau trwy Steve Jones ar ôl symudiad da ond fe ddaliodd Munster eu tir a sgorio tri chais arall i gipio’r pwynt bonws a chryfhau eu gafael ar frig y tabl.

Roedd y Dreigiau wedi gorfod addasu oherwydd anafiadau – roedd y cefnwr Will Harries wedi brifo cyn dechrau ac fe fu’n rhaid i Rhodri Gomer Davies ddod ymlaen yn yr hanner cynta’.

Roedd yna anaf hefyd i’r ail reng Rob Sidoli wrth iddo gwympo a brifo’i benelin.