Ar ôl misoedd o ddadlau ac anghydweld yn y byd rygbi, tybed a ydyn ni o’r diwedd ar fin cael mwy o sylw i’r gêm ar y cae nag oddi ar y cae yn dilyn cyfarfod pwysig ar 12 Chwefror? Mae gobaith bellach y bydd modd cytuno ar strwythur Cwpan Ewropeaidd newydd.

Roedd yn arwydd da bod Undebau Cymru, Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc ynghyd â chynrychiolwyr Cynghrair Top 14 Ffrainc, Cynghrair Aviva Lloegr a’r pedwar rhanbarth o Gymru wedi cwrdd ym Mharis i drafod dyfodol y gêm.

Heb amheuaeth mae’n rhaid i bawb sydd â diddordeb yn y gêm sylweddoli ei bod yn bwysig bod trafodaethau adeiladol yn digwydd a allai arwain at greu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd fydd yn disodli Cwpan Heineken.

Roedd yn dda cael datganiad gobeithiol gan bwyllgor y Chwe Gwlad a oedd yn cadeirio’r trafodaethau. Yn ôl y datganiad cafwyd cyfarfod ‘adeiladol’ ac we wnaed cynnydd tuag at greu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd.

Mae’n dda deall bod gan bwyllgor y Chwe Gwlad gefnogaeth bob parti i greu a sefydlu y gystadleuaeth newydd. Golyga hyn felly y bydd Cwpan Rygbi Ewrop (ERC)Ltd, sef perchnogion a goruchwylwyr cystadlaethau Cwpan Heineken a’r Amlin, yn colli rheolaeth ar y gystadleuaeth.

Wedi’r holl anghytuno roedd yn dda gweld bod ymateb Undeb Rygbi Cymru yn bur gadarnhaol i’r datblygiad diweddaraf. Mewn datganiad fe ddywedon nhw eu bod yn hapus gyda’r trafodaethau ynglŷn a strwythur cystadleuaeth newydd Ewropeaidd ar gyfer y tymor nesaf ac y bydd hyn yn arwain at ganlyniad cadarnhaol i bob parti.

Brwydr y darlledwyr

Mae’n edrych felly bod y mater o lywodraethu y gêm ar fin cael ei setlo ond mae yna broblem arall sy’n rhaid ei datrys, sef honno ynglŷn â hawliau teledu i ddangos y gemau.

Mae Cynghrair Aviva Lloegr wedi cytuno gyda BT Sport ar hawliau darlledu gemau Ewropeaidd y tymor nesaf, tra bod ERC Ltd wedi ymrwymo i Sky. Tybed a fyddai’r cwmnïau teledu yn medru dod at ei gilydd i ddatrys y sefyllfa a rhannu’r gwaith?

Mae’n siŵr y bydd y chwaraewyr yn cadw llygad barcud ar y trafodaethau diweddaraf yma gan obeithio y caiff popeth ei ddatrys yn gyflym ac yn effeithiol. Wedi’r cyfan chwarae ar y lefel uchaf posibl yw uchelgais y chwaraewyr ac wrth chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd mae cyfle da iddynt ddatblygu eu gêm ac i ddysgu chwarae dan bwysau.

Gall hyn baratoi llawer ohonynt ar gyfer gemau rhyngwladol. Er bod chwaraewyr tîm Cymru wedi gwadu bod yr holl ansicrwydd yn cael effaith negyddol ar eu perfformiad, yr oedd yn amlwg bod rhywbeth heblaw am y gêm ar feddwl rhai ohonynt yn erbyn Iwerddon.

Tybed, nawr bod gobeithion o ddatrys y broblem oddi ar y cae, a gawn ni berfformiad mwy bywiog a chadarnhaol ar y cae yn erbyn Ffrainc ymhen wythnos?

A yw’r trafferthion bron ar ben? Trydarwch Rhys ar @rhysow.