Leigh Halfpenny
Caeredin 11 Gleision 16

Yr asgellwr Leigh Halfpenny a giciodd y Gleision tua buddugoliaeth sy’n eu codi’n ôl i’r trydydd lle yng Nghynghrair Magners.

Ond fe allai fod wedi cael cais cynta’r gêm hefyd ond iddo daro’r bêl ymlaen ac yntau ar y llinell gais. Fe ddaeth Richard Mustoe hefyd yn agos ar yr ochr arall.

Y Gleision oedd yn rheoli’r chwarae yn yr hanner cynta’ ac fe aethon nhw 10-0 ar y blaen gyda chais gan Chris Czekaj, cic gosb a throsiad gan Halfpenny.

Yn fuan wedi’r hanner, roedd y Gleision 16-3 ar y blaen ar ôl dwy gic gosb arall gan Halfpenny. Ond fe fethodd ei dacl funud ola’ ef a rhwystro Caeredin rhag cael cais cysur yn y munud ola’.

Mae’r Gleision bellach o flaen y Scarlets a’r Gweilch yn y gynghrair a dim ond dau bwynt y tu ôl i Leinster sy’n ail.