Mae hyfforddwr dan-20 Cymru Byron Hayward wedi enwi’i dîm i wynebu’r Eidal nos Wener ym Mharc Eirias – gan gynnwys dau o olwyr tîm lleol Rygbi Gogledd Cymru.

Mae gan bump o’r tîm brofiad ar y lefel hwn eisoes, gan gynnwys y capten Steffan Evans, ei bartner yn y canol Harri Evans o RGC 1404, y bachwr Elliot Dee, y prop Nicky Thomas a’r wythwr James Benjamin.

Un arall o chwaraewyr RGC – fu’n Dîm yr Wythnos ar golwg360 yn yr hydref – fydd yn dechrau i Gymru nos Wener fydd y cefnwr Afon Bagshaw.

Roedd Bagshaw ac Evans yn stiwardiaid ym Mharc Eirias, cartref tîm dan-20 Cymru bellach, yn ystod y bencampwriaeth y llynedd.

Hefyd yn y tîm ar gyfer nos Wener mae clo’r Dreigiau Scott Andrews, a’r asgellwr Dafydd Howells a enillodd gap llawn dros Gymru ar y daith i Siapan y llynedd.

“Y gêm nos Wener fydd ein cyfle cyntaf i brofi’r chwaraewyr yma ar y lefel yma o rygbi rhyngwladol ac fe fydd yn llinyn mesur mewn sawl ffordd,” meddai’r hyfforddwr Byron Hayward.

“Mae gennym ni chwaraewyr newydd drwy’r tîm, gan gynnwys y mewnwr a’r maswr, ond mae ganddyn nhw brofiad y tu allan iddyn nhw gyda Steffan Hughes yn rhif 12. Mae’r un peth yn wir am brofiad y rheng flaen a’r rheng ôl.

“Bydd herio’r Eidal yn rhywfaint o gam i’r tywyllwch oherwydd nad ydyn nhw wedi chwarae llawer y tymor hwn ond rydym ni’n disgwyl brwydr ymysg y blaenwyr a dyna fydd ein her gyntaf, yn enwedig os yw hi’n wlyb.

“Mae’n rhaid i’r ffocws fod ar ein gêm ni a gosod ein cynllun ni ar y gêm.”

Bydd y gic gyntaf ar Barc Eirias ym Mae Colwyn am 7.10yh nos Wener, gyda thicedi’n dal ar gael o Ganolfan Hamdden Bae Colwyn a Venue Cymru am £5 i blant dan 16 a £10 i oedolion.

Tîm dan-20 Cymru vs yr Eidal:

Afon Bagshaw (RGC); Dafydd Howells (Gweilch), Harri Evans (RGC), Steffan Hughes (capt, Scarlets), Joshua Adams (Scarlets); Ethan Davies (Dreigiau), Tom Williams (Gleision); Callum Lewis (Gleision), Elliot Dee (Dreigiau), Nicky Thomas (Gweilch ), Ben Roach (Gleision), James Sheekey (Gleision), Will Boyde (Caerfyrddin), Scott Matthews (Dreigiau), James Benjamin (Dreigiau)
Replacements:
Scott Otten (Gweilch), Leon Crump (Gleision), Benjamin Leung (Scarlets), Scott Andrews (Dreigiau), Connor Lloyd (Scarlets), Luke Price (Gweilch), Garyn Smith (Gleision)