Y ddeuawd ddisgleiriaf ar y blaned rygbi
Na, dyw hyfforddwr Cymru ddim wedi troi’n wleidyddol – ei ddewisiadau yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad sy’n cael sylw Illtud Dafydd …

Ar ôl darllen twît (unieithog) Saesneg Undeb Rygbi Cymru yn dweud fod Gatland am enwi’i garfan Chwe Gwlad yr wythnos hon, fe baratois fy hun ar gyfer ‘bach o ymchwil a chwilota i ba grwt ifanc y byddai Gatland yn enwi, a pha aelod amhrofiadol o garfannau rhanbarthol Cymru y byddai yn ei gynnwys – ond doedd dim angen poeni.

Yn y gorffennol mae Gatland wedi rhoi cyfle i fechgyn ifanc, di-gap megis Hallam Amos, Cory Allen a Tom Prydie ond ar gyfer twrnament y Chwe Gwlad – eleni, nid oes un cap newydd i fod. Oni bai am Emyr Phillips mae’r garfan i gyd wedi wynebu un o’r deg tîm cryfaf yn ôl rhestr dethol y Bwrdd Rhyngwladol o leiaf unwaith.

Er nad yw Phillips, Rhys Webb, Aaron Shingler, Rhodri Williams neu Andrew Coombs wedi ennill dros 10 cap yr un maent yn llawn haeddu’r alwad i’r gad yn dilyn perfformiadau safonol dros ei ranbarthau.

Gyda charfan o 32 mae’n garfan dynn gyda sawl unigolyn yn y broses o wella o anafiadau, a bydd y garfan yn siŵr o ymestyn o weld mai ond un canolwr iach sydd gan Gatland ar hyn o bryd mas o Jamie Roberts, Jonathan Davies a Scott Williams.

Yn ystod y gynhadledd i’r wasg dywedodd Gatland fod yna bosibilrwydd o ychwanegu un neu ddau enw i’r garfan, gan ddweud ei fod ef a gweddill ei dîm hyfforddi yn awyddus i rai chwaraewyr aros gyda’u rhanbarthau.

Gan edrych ar safleoedd penodol, credaf fod Gatland am gadw golwg ar asgellwyr fel Amos a Hanno Dirksen, y canolwr Richard Smith, neu arbrofi gyda George North yn y canol.

Un arall o bosib fydd y blaenasgellwr ifanc Sam Lewis, sydd yn fy nhyb i, er ei fod wedi bod yn gwisgo’r crys rhif chwech anarferol dros y Gweilch, wedi bod yn un o chwaraewyr gorau’r rhanbarth ers sawl mis nawr.

Mae’n garfan geidwadol, brofiadol a bwriadol ond bydd digon o grafu pen a chroesi bysedd gan obeithio y bydd o leiaf un o Jamie Roberts neu Jonathan Davies a Sam Warburton hefyd yn holliach ar gyfer Chwefror y 1af a’r gêm gyntaf yn erbyn Yr Eidal. Y mis bach yn cychwyn deufis anferth.

Esiampl Byrne a Brew

Fel ôl-nodyn mae gweld Lee Byrne ac Aled Brew yn dychwelyd i chwarae rygbi rhanbarthol yng Nghymru gyda’r Dreigiau yn esiampl berffaith o sut a phryd y dylai ein chwaraewyr dreulio eu hamser yn chwarae ar gaeau tramor, boed hynny yn Ffrainc neu Loegr.

Mae’r ddau yn dychwelyd i orffen eu gyrfaoedd dan law Lyn a Kingsley Jones wedi tair blynedd yn y Top 14, tair blynedd o gyrraedd rownd derfynol Cwpan Ewrop, o chwarae 26 rownd o rygbi caled ac mewn carfannau llawn sêr rygbi’r byd!

Fy ngobaith i yw y bydd y ddau’n dilyn esiampl Stephen Jones gan rannu eu profiadau gyda chwaraewyr ifancaf y garfan, fel y gwnaeth gyda Rhys Priestland ac Aled Thomas. Myfyrwyr Brew ac Byrne fydd olwyr fel Amos a Ross Wardle.

Un dyn fydd ddim yno i groesawu Byrne a Brew i  Rodney Parade, yn ôl WalesOnline, fydd Dan Evans, sydd ar ei ffordd lawr yr M4 i Stadiwm Liberty i gystadlu gyda Richard Fussell am y crys rhif 15.

Fe wadodd hyfforddwr olwyr y Gweilch Gruff Rees hyn ddydd Mercher, ond cyfaddefodd ei fod yn ffan o Evans a’i fod wedi’i hyfforddi yn y gorffennol o dan strwythur timau ieuenctid Cymru.

Gallwch ddarllen mwy gan Illtud ar ei flog, neu ei ddilyn ar Twitter ar @illtuddafydd.