Dale McIntosh (Llun Pontypridd)
Fe fydd hyfforddwr Pontypridd, Dale McIntosh, yn ymuno gyda Gleision Caerdydd heddiw, gan gymryd swydd hyfforddwr yr amddiffyn.

Y dyn o Seland Newydd, a chwaraeodd i dîm rhyngwladol Cymru, yw un o’r hyfforddwyr ucha’u parch y tu allan i’r rhanbarthau.

Fe fydd y Gleision yn cynnal cynhadledd i’r wasg i gadarnhau’r penodiad am hanner dydd heddiw.

Roedd McIntosh eisoes wedi bod yn gweithio am un diwrnod y flwyddyn gyda’r rhanbarth o Gaerdydd.

Yn awr mae’n cymryd lle Rob Powell a ymddiswyddodd ar ôl i’r Gleision ildio chwe chais yn erbyn Exeter yn eu gem ddiwetha’.

Cefndir McIntosh

Yn y rheng ôl yr oedd McIntosh yn chwarae a’i lys enw yw ‘The Chief’ – roedd wedi bod gyda Pontypridd ers 1989 ac, yn rôl hyfforddwr, wedi eu harwain i ennill y Bencampwriaeth y ddau dymor diwetha’.

Cyn ymuno â’r Gleision mae wedi bod yn paratoi Pontypridd ar gyfer gêm gwpan fawr yn erbyn y Cymry yn Llundain tros y Sul.