Cymru 15 – 23 Lloegr

Cwympo ar y glwyd olaf oedd hanes tîm dan-20 Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Ieuenctid y Byd yn Llydaw heno wrth iddynt golli i’r hen elyn.

Roedd pethau’n edrych yn hynod addawol i’r cochion ar yr hanner wrth iddynt arwain 15-3 diolch i ddau gais gan yr asgellwr Ashley Evans.

Er hynny, methodd Cymru â manteisio ar fantais o ddyn yn neg munud cyntaf yr ail hanner wrth i glo Lloegr, Dominic Barrow, dreulio cyfnod yn y gell callio.

Cryfhaodd y Saeson wedi hynny a dechrau rheoli’r gêm gan droi’r Cymry yn ardal y dacl dro ar ôl tro.

Croesodd y cefnwr Jack Nowell yn gyntaf gyda Henry Slade yn trosi i ddod a Lloegr o fewn 5 pwynt. Llwyddodd Slade gyda chic gosb yn fuan wedyn i ddod â’r sgôr yn agosach fyth.

Yna, tro’r canolwr Sam Hill oedd hi i groesi am gais, a trosodd Slade unwaith eto i roi ei dîm ar y blaen.

Er i’r Cymry frwydro am sgôr, roedd Lloegr yn rhy gryf ac ildiodd y cochion gic gosb yn hwyr yn y gêm i Slade ei throsi a thorri calonnau’r Cymry ifanc.