Bydd Parc Eirias ym Mae Colwyn yn llawn dop nos Wener ar gyfer ymgais Cymru dan 20 i ennill y Gamp Lawn yn erbyn Lloegr.

Bydd dau dim gorau’r bencampwriaeth dan 20 oed yn mynd ben-ben gerbron 6,500 o bobol.

Mae hyfforddwr Cymru Danny Wilson wedi gwneud pedwar newid i’r tim wnaeth guro’r Alban 42-17 gyda Jack Dixon yn dod mewn i’r canol, Ashley Evans ar yr asgell, a Nicky Smith a Elliott Dee yn dechrau yn y rheng flaen.

Tim Cymru dan 20, cic gyntaf am 7.35 nos Wener, yn fyw ar S4C:

Jordan Williams (Scarlets/ Llanelli); Harry Robinson (Gleision), Cory Allen (Gleision/ Caerdydd), Jack Dixon (Dreigiau), Ashley Evans (Gweilch/ Penybont); Sam Davies (Gweilch/ Abertawe), Rhodri Williams (Scarlets/ Llanymddyfri); Nicky Smith (Gweilch/ Abertawe), Elliot Dee (Bedwas), Nicky Thomas (Gweilch/ Abertawe), Carwyn Jones (Scarlets/ Cwins Caerfyrddin), Rhodri Hughes (Gweilch/ Abertawe), Ellis Jenkins (capten, Gleision/ Caerdydd), Daniel Thomas (Scarlets / Llanelli), Ieuan Jones (Dreigiau)

Eilyddion: Ethan Lewis (Gleision/ Caerdydd), Gareth Thomas (Scarlets / Cwins Caerfyrddin), Dan Suter (Gweilch/ Penybont), Jack Jones (Gweilch/ Rovigo), Sion Bennett (Scarlets/ Cwins Caerfyrddin), Joshua Davies (Dreigiau / Bedwas), Hallam Amos (Dreigiau), Steffan Hughes (Scarlets / Llanelli)

Tîm Merched Cymru

Mae Merched Cymru yn anelu am fuddugoliaeth brynhawn Sul er mwyn sicrhau eu lle nhw yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Dyma’r tim, cic gyntaf am 2.30 brynhawn Sul ar faes Talbot Athletic, Aberafan:

15 Dyddgu Hywel (Caernarfon)

14 Caryl James (Cwins Caerdydd)

13 Elen Evans (Waterloo)

12 Rebecca de Filippo (Cwins Caerdydd)

11 Charlie Murray (Neath Athletic)

10 Elinor Snowsill (Bryste)

9 Amy Day (heb glwb);

1 Jenny Davies (Waterloo)

2 Lowri Harries (Neath Athletic)

3 Catrin Edwards (Cwins Caerdydd)

4 Gemma Hallett (Pontyclun)

5 Shona Powell-Hughes (Neath Athletic)

6 Catrina Nicholas (Cwins Caerdydd)

7 Sioned Harries (Cwins Caerdydd)

8 Rachel Taylor (Bryste – Capten)

Eilyddion: Carys Phillips (Met Caerdydd); Megan York (Blaenau Gwent); Bethan Howell (Blaendulais); Nia Davies (Met Caerdydd); Vicky Owens (Pontyclun); Laura Prosser (Pontyclun); Philippa Tuttiett (Cwins Caerdydd); Leila Johns (heb glwb)