Mae Aelod Cynulliad o Abertawe wedi galw am newid yn strwythur Uwch Gynghrair pêl-droed Cymru, er mwyn creu mwy o ddiddordeb yn y gystadleuaeth.

Dywedodd yr AC Llafur Mike Hedges wrth Golwg360 bod angen cynnal y gynghrair dros fisoedd yr haf, fel nad oes cymaint o gystadleuaeth am gefnogwyr a sylw’r cyfryngau gyda thimoedd mwyaf Cymru, Abertawe a Chaerdydd.

Awgrymodd Hedges y gall symud y bencampwriaeth i’r haf – fel y mae rygbi’r gynghrair wedi ei wneud yn Lloegr a phêl-droed yng Ngweriniaeth Iwerddon – greu mwy o ddiddordeb yn Uwch Gynghrair Cymru.  Byddai hyn yn ei dro yn denu mwy o gefnogwyr, a mwy o arian i’r clybiau.

“Ar hyn o bryd, mae gan y gynghrair duedd tuag at y gogledd a’r canolbarth, gan fod llai o ddiddordeb yn y de.  Ond buasai cynnal y bencampwriaeth yn yr haf yn golygu llai o gystadleuaeth hefo timau fel Caerdydd ac Abertawe.  Byddai hefyd mwy o siawns cael darllediad dros y DU, ar sianel fel Sky, gan fod llai o chwaraeon ymlaen yn yr haf beth bynnag,” meddai.

‘Gwella’r safon’

Cyfaddodd Hedges y gall fod safon isel y chwarae yn rhan o’r broblem o ddenu gwylwyr, ond honnodd y byddai ail-strwythuro’r gystadleuaeth yn gwella hynny.

“Gall bencampwriaeth yn yr haf ddenu chwaraewyr ar fenthyciad o gynghreiriau eraill, a byddai hynny’n gwella’r safon. Gall hefyd wella perfformiad timau Cymru yn Ewrop.”

Mae rowndiau cynnar y cystadlaethau Ewropeaidd yn cael eu cynnal dros yr haf, pan mae timau fel arfer ar seibiant o chwarae. Mae Hedges yn honni bod timau’n gwneud yn well yn Ewrop pan maen nhw wedi bod yn chwarae’n gyson.

“Y gwir yw bod timau Cymru yn cael eu curo gan dimau o wledydd na all y rhan fwyaf o bobol Cymru eu hadnabod ar fap. Os gall timau Cymru wneud yn well yng nghystadlaethau Ewropeaidd, byddai’n dod ag arian i mewn i’r clybiau, ac yn denu pobol i wylio a chefnogi,” meddai.

Dywedodd Mike Hedges bod Afan Lido, tîm o ardal Port Talbot, yn methu a denu cefnogwyr gan fod clwb Abertawe yn hawlio sylw yn yr ardal.  Ond byddai chwarae dros yr haf yn golygu mwy o gefnogwyr yn ei farn ef.

“Y peth pwysicaf yw denu pobol i wylio. Ar hyn o bryd, mae timau Cymru yn denu torfeydd yn y cannoedd isel, mae’n rhaid cael mwy o ddiddordeb yn y gystadleuaeth.”