Owain Fon Williams (o wefan Tranmere Rovers)
Mae gôl-geidwad gorau Cymru erioed wedi galw am roi cap cynta’ i’r Cymro Cymraeg, Owain Fôn Williams.

Yn ôl Neville Southall, mae’r goli ifanc o Benygroes yn chwarae’n arbennig o dda i’w glwb, Tranmere Rovers sydd ar frig yr Adran Gyntaf.

Fe ddaw’r alwad ar ôl i’r gôl-geidwad cyson, Wayne Hennessey, gael anaf arall.

Yn ôl Southall, a enillodd fwy na 100 o gapiau, mae rheolwr Tranmere, Ronnie Moore, yn adnabod goli dau ac mae record Owain Fôn Williams yn ddigon da eleni i warantu ennill cap.

Fe fyddai hynny’n ail-adrodd hanes – fe chwaraeodd Williams tros Gymru am y tro cynta’ o dan 17 oed, yn eilydd i Hennessey.