Chris Kirkland
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad ar gôl-geidwad Sheffield Wednesday, Chris Kirkland, wedi cyhuddo dyn 21 oed.

Mae Aaron Cawley o Cheltenham wedi’i gyhuddo o daro’r chwaraewr yn ei wyneb ar ôl rhedeg ar gae Hillsborough yn ystod y gêm rhwng Sheffield Wednesday a Leeds United nos Wener.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Sheffield y bore yma.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal, 1-1.

Cafodd Kirkland ei daro i’r llawr ar ôl ildio gôl yn y 76ed munud.