Chris Coleman
Mae Joe Ledley a Jason Brown yn dweud bod y chwaraewyr yn cefnogi’r rheolwr Chris Coleman er gwaetha’r canlyniadau siomedig yn ddiweddar.

Nid yw Coleman wedi ennill ers dod yn rheolwr ar Gymru.

‘‘Yr unig reolwr sydd dan bwysau yw Craig Levein,’’ meddai Jason Brown, gôl geidwad Cymru.

Mae’r Alban wedi llwyddo i gael dwy gêm gyfartal hyd yn hyn, ond mae penderfyniad Craig Levein i alw ar Steven Fletcher yn dangos bod rheolwr yr Alban dan bwysau, yn ôl Brown.

Cafodd Fletcher ei adael allan o sawl garfan ar ôl iddo dynnu allan o gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Chwefror 2011.

Gyda Wayne Hennessey a Boaz Myhill allan oherwydd anafiadau, Jason Brown yw’r ffefryn i chwarae yn erbyn Yr Alban nos Wener.