Cyn-ymosodwr Porthmadog a Bangor, Marc Lloyd-Williams, yw’r chwaraewr cyntaf i gael ei enwi yn Oriel Anfarwolion Uwch-gynghrair Cymru.

Mae’r Oriel wedi’i hagor fel rhan o ddathliadau penblwydd yr Uwch-gynghrair yn 20 oed eleni.

Cafodd ei sefydlu ar y cyd rhwng yr Uwch-gynghrair a Chymdeithas Bêl Droed Cymru.

Mae disgwyl cyhoeddi 20 o enwau yn ystod y tymor hwn i’w derbyn i’r Oriel.

Marc Lloyd-Williams – ‘Jiws’ – sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau yn hanes yr Uwch Gynghrair, gyda 319 gôl mewn 468 o gemau.

Ymddangosodd yn yr Uwch-gynghrair am y tro cyntaf ym 1992 gyda Phorthmadog, ond symudodd i Fangor a gwneud enw iddo’i hun yng nghystadleuaeth Ewrop. Yn ystod ei yrfa chwaraeodd hefyd dros TNS, Aberystwyth, y Drenewydd, y Rhyl ac Airbus.

Enillodd yr Uwch Gynghrair ddwywaith, unwaith yr un gyda Bangor a TNS, a sgoriodd 29 hat-tric.