Rodney Parade
Neithiwr fe sicrhaodd Casnewydd ei bumed fuddugoliaeth yn olynol trwy guro Henffordd o 2-0 ar faes Rodney Parade.

Fe wnaeth Lenny Pidgeley, gôl geidwad Casnewydd, arbed cic o’r smotyn gan Harry Pell yn yr hanner cyntaf.

Andy Sandell a Aaron O’Connor sgoriodd y ddwy gôl i’r tîm cartref.

Cafodd Justin Edinburgh ei anfon i’r fainc am gicio pêl i ffwrdd yn ystod y gêm.

Daeth 4,300 o bobl i Rodney Parade neithiwr i gefnogi ac i  weld Casnewydd yn aros ar frig y tabl Blue Square Bet Premier.