Maen nhw’n trydar fod Ryan wedi bradychu Cymru trwy gytuno mor rhadlon i chwarae i dîm GB.

Ac yntau wedi rhoi’r gorau i chwarae dros ei wlad ers blynyddoedd lawer er mwyn ymestyn ei yrfa gyda Man U, mae’n hawdd deall siom cefnogwyr Cymru.

Ac wrth gwrs mi fyddai’n dal i gerdded fewn i dîm Chris Coleman ac yn gaffaeliad gwiw ar gyfer yr ymdrech i gyrraedd Cwpan y Byd Brasil yn 2014.

Wrth chwilio am gyd-destun, ystyriwch y sgrechian ym mhapurau Llundain petae Paul Scholes wedi cytuno i chwarae dros Brydain, ac yntau wedi gwrthod y cynnig i ddychwelyd i rengoedd Lloegr ar gyfer Ewro 2012.

Paul Scholes yw’r unig faestro canol cae sy’ gan y Saeson, yn chwarae rôl Pirlo’n ddeheuig, felly mi fyddai’n cryfhau eu tîm…ond nid yw’n agos at fod mor bwysig i Loegr ag y byddai Ryan Giggs i Gymru.

Anghofiwch Ryan, dyma’r broblem

Ond yr hyn ddylen ni boeni amdano go-iawn yw effaith chwarae’n yr Olympics ar y chwaraewyr hynny sydd eisiau chwarae i Gymru.

Sut siap fydd ar Gareth Bale fis Medi, os fydd tîm GB wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac yntau wedi ymdrechu’n galed?

Nid oes angen bod yn Einstein, Arthur Picton na hyd yn oed Walter Tomos i ddeall bod Cymru’n dîm rhech heb Bale.

Beth os yw’r gwibiwr yn brifo yn y Gemau Olympaidd?

Fe all ein gobeithion o ganlyniadau da yn y gemau rhagbrofol cyntaf yn erbyn Gwlad Belg a Serbia fod drosodd cyn y gic gyntaf.

Ac i rwbio halen yn y briw, mae Aaron Ramsay a’r bythol anafiedig Craig Bellamy yng ngharfan GB hefyd.

Sut siap fydd ar ben-glin Bellers ar ôl yr Olympics?

Byddai medal aur i fynd efo’r tatŵ Owain Glyndŵr yn edrych yn neis, sbo.

Ond mewn difrif calon, twrnament ceiniog a dimau ydy pêl-droed Olympaidd.

Mynd i Gwpan y Byd ym Mrasil, dyna ydy breuddwyd pob pêl-droediwr gwerth ei halen.