Nathan Dyer
Middlesbrough 3 – 4 Abertawe
Sgoriodd Abertawe bedair gôl wrth faeddu Middlesbrough oddi cartref mewn gêm gyffrous yn y Bencampwriaeth heddiw.
Sgoriodd Marvin Emnes, sydd wedi bod ar fenthyg â’r Elyrch y tymor yma, y gôl gyntaf dros y tîm cartref ar ôl wyth munud.
Tarodd Nathan Dyer dros yr ymwelwyr â gôl o 12 llath ar ôl 14 munud, yn dilyn ymosodiad cyflym o un pen i’r cae i’r llall.
Sgoriodd Jonathan Grounds ei gôl gyntaf i’w glwb â pheniad syml o gic rydd dros wal Abertawe.
Dechreuodd y tîm cartref wella’n sylweddol ar ôl mynd ar y blaen a sgoriodd Leroy Lita â pheniad arall gan sicrhau bod Middlesbrough 3-1 ar y blaen wyth munud ar ôl yr hanner.
Ond daeth y dathlu i ben yn fuan wrth i Scott Sinclair gau rywfaint ar y bwlch gyda chic gosb ar ôl i Julia Arca droseddu yn erbyn Joe Allen.
Unionodd Ashley Williams y sgôr â gôl o chwe llath ar ôl 68 munud.
Sgoriodd Craig Beattie y gôl olaf er mwyn cipio’r fuddugoliaeth yn yr amser ychwanegol a thorri calonnau cefnogwyr y tîm cartref.