Dean Saunders
Roedd siom i Wrecsam yn Uwch Gynghrair y Blue Square wrth i Dref Crawley sgorio dwy gôl hwyr a’u hanfon nhw adref yn waglaw.

Enillodd Crawley Town y gêm drwy gic gosb yn y munudau olaf ar ôl i Jay Harris weld cerdyn coch am droseddu oddi ar y bêl, wedi iddo dderbyn cerdyn melyn yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Wrecsam yn dda ac fe aethon nhw ar y blaen ar ôl saith munud yn unig gyda gôl gan Andy Mangan o’r tu mewn i’r blwch cosbi .

Toc wedi hanner awr o’r chwarae sgoriodd unwaith eto i gorbel chwith isaf y rhwyd, gan roi Wrecsam 2 – 0 ar y blaen cyn yr hanner amser.

Tarodd Tref Crawley yn ôl yn yr ail hanner gyda gôl gan Matthew Tubbs ar ôl 50 munud. Daeth ei ail hanner awr yn ddiweddarach, ar ôl 81 munud, a thaflu dŵr oer dros obeithion Wrecsam.

Roedd gwaeth i ddod dwy funud yn ddiweddarach pan gafodd  Jay Harris ei anfon o’r cae, a sgoriodd Matthew Tubbs ei drydydd o’r gêm drwy gic gosb.