Dave Jones
Adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Abertawe fydd nod tîm Dave Jones wrth iddyn nhw wynebu Scunthorpe gartref pnawn ma.

Sicrhaodd yr Adar Glas dri phwynt pwysig oddi cartref yn y gêm ddarbi ddydd Sul diwethaf ond dywedodd y rheolwr mai’r peth pwysicaf oedd adeiladu ar hynny.

“Mae pob buddugoliaeth yn wych, ond mae ennill gemau ddarbi yn deimlad hyd yn oed yn well,” meddai Dave Jones.

“Serch hynny, y peth pwysig ydi canolbwyntio ar adeiladu ar y fuddugoliaeth yna, ac mae angen ymdrech fawr eto yn erbyn Scunthorpe.”

Mae Caerdydd yn y trydydd safle yn y tabl ar hyn o bryd a Scunthorpe yn ail o’r gwaelod.

Ond dywedodd Dave Jones na ddylai unrhyw dim yn y Bencampwriaeth deimlo fod ganddyn nhw’r hawl i ennill gêm os nad ydyn nhw’n rhoi eu gorau glas.

“Mae’n rhaid i bob tîm weithio’n galed am bob pwynt. R’yn ni yn agos i’r brig ac mae Scunthopre yn agos at y gwaelod.

“Ond dangosodd Wolves ddydd Sadwrn wrth drechu Man Utd fod y tîm ar waelod y tabl yn gallu trechu’r tîm sydd ar y brig.

“Fe fydd rhaid i ni weithio’n galed am y pwyntiau a pharatoi yn drylwyr ar gyfer y gêm.”