Gareth Bale
Mae adroddiadau bod Gareth Bale wedi cael ei gynnwys yn y garfan 35 dyn ar gyfer y Gemau Olympaidd, er iddo fethu gêm Cymru yn erbyn Mecsico yn ddiweddar.

Bydd yr asgellwr o Tottenham Hotspur yn ymuno gyda’i gyd chwaraewyr rhyngwladol Craig Bellamy o Lerpwl, Joe Allen a Neil Taylor o Abertawe yn y garfan.

Hefyd mae disgwyl y bydd Ryan Giggs ac Aaron Ramsey yn cael eu dewis ynghyd â David Beckham y model tronsiau sy’n dal i botsian efo pêl-droed yn America.

Roedd yn ofynnol i dîm Prydain Fawr gyflwyno manylion eu carfan dros dro i Fifa heddiw.

Bydd y garfan derfynol yn cael ei hidlo lawr o 35 i 18 dyn, gyda phedwar ar restr wrth gefn.

Bydd y tîm yn cael ei gyhoeddi a’r y chweched o Orffennaf.

Mae Cmdeithas Bêl-droed Cymru, ynghyd â’r cymdeithasau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn gwrthwynebu tîm Prydain Fawr gan ofni y gallai  fygwth eu hannibyniaeth.

Ond er bod y Gymdeithas yn gwrthwynebu cynnwys chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn y Gemau Olympaidd, nid ydyn nhw’n bwriadu atal chwaraewyr Cymru rhag cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Ar gae Old Trafford ym Manceinion ar y 26ain o Orffennaf y cynhelir gêm gyntaf Prydain Fawr yn erbyn Senegal.  Bydd y gemau eraill yn y grŵp yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ac yn Wembley.