Cymru dan-21  2   Gogledd Iwerddon dan-21 
Brian Flynn - 'ffantastig'
0

Beth bynnag am y prif dîm, mae chwaraewyr ifanc Cymru yn parhau i wneud eu marc – roedd eu perfformiad neithiwr yn “ffantastig”, meddai eu rheolwr.

Yn ôl Brian Flynn, fe allai’r tîm fod wedi sgorio llawer mwy wrth iddyn nhw guro Gogledd Iwerddon yn gyfforddus yn y Cae Ras yn Wrecsam.

Er mai gêm gyfeillgar oedd hi, mae’n fuddugoliaeth bwysig, wrth i Gymru baratoi am rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop 2013. Mae’r rheiny’n dechrau fis nesa’.

Roedd yna un gôl yn y naill hanner a’r llall wrth i dîm ysgafnach Cymru reoli’r chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon ac ennill eu chweched gêm gartre’n olynol.

Yn ôl Flynn, roedd “symud, pasio a chreadigrwydd” ei chwaraewyr ifanc yn “wych” ac roedd y pedwar yn y cefn hefyd yn “ardderchog”.

Y goliau

Fe ddaeth y gôl gynta’ ar ࿴l 41 munud trwy gic o’r smotyn gan Danny Alfei o Abertawe, a hynny ar ôl rhediad da gan y seren 17 oed, Jonathan Williams o Crystal Palace.

Fe ddaeth yr ail gyda 13 munud yn weddill, trwy’r eilydd Robert Ogleby sy’n chwarae i Hearts yn yr Alban.

“Mae gynnon ni chwaraewyr da,” meddai Brian Flynn. “Ac mae’r llinell gynhyrchu’n parhau.”