Malky Mackay
David Wyn Williams, un o gefnogwyr CPD Caerdydd sy’n rhestru ei resymau i fod yn gadarnhaol am dymor nesaf:

1)  Dau golgeidwad o’r radd flaenaf.

Roedd ymddangosiadau Heaton yn y Cwpan Carling yn herio safle Marshall fel y prif “rhif un”, ac felly yn peri’r ddau i berfformio i’w llawn botensial pan maen nhw yn y gôl.

2) Debyg fydd yr Adar Gleision yn gallu dewis unrhyw liw i chwarae ynddo tymor nesaf; gan gynnwys coch mae’n debyg?!

3)  Darcy Blake

Ansicr pam nad yw Malky yn cytuno efo fi  am hwnnw.

4) Stadiwm Lecwydd

Mymryn yn well na Ninian… i deuluoedd. Braf bod y clwb wedi bod yn cynllunio tuag at y dyfodol ac nid er mwyn plesio’r Soul Cru gynt.

5) Hudson

Weloch chi ei gol?

6) Abertawe

Do, dangosodd tîm heb sêr ei bod hi’n bosib i dîm bach o Gymru gystadlu yn yr Uwchgynghrair.

7)  Peter Whittingham

Mae e’n chwarae i Gaerdydd. Ar hyn o bryd… ond os na ddaw’r Uwchgynghrair, am ba hyd?

8) Malky’r siopwr

Cowie, Mason, Taylor, ac yna Lawrence; nid cyd-ddigwyddiad ydyw fod Malky yn gallu denu chwaraewyr profiadol a thalentog i brifddinas Cymru.  Maen nhw’n dod draw gan fod e yma’n barod dybiwn i.

9) Pwy fyddai’n well gyda chi – chwaraewyr blaen profiadol ac uchelgeisiol megis Bellamy, Chopra a Boothroyd sydd ddim yn mynd i aros yn hir, neu chwaraewyr profiadol a ffyddlon megis Earnshaw? Efallai nad yr ail ateb byddech chi wir yn ei gredu, ond serch hynny mae ansawdd a gallu gan y chwaraewyr ymosodol presennol.  Cawn ni weld a yw Kenny Miller dal yma ym mis Medi ie?

10) Efallai na ddaw rhediad yn un o’r cwpanau tymor nesaf…

Bydd hynny’n cadw’r bechgyn yn llawn egni er mwyn canolbwyntio eu hymdrechion i ennill dyrchafiad.

11) Gwell cael dyrchafiad gyda thîm cryf na thîm sydd ddim eto yn ei llawn dwf.