James Collins
Mae James Collins wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at arwain Cymru wrth iddyn nhw herio Gweriniaeth Iwerddon heddiw.

Fe fydd amddiffynwr Aston Villa yn gapten ar Gymru yng ngêm gyntaf Gary Speed wrth y llyw, wrth i Gwpan y Cenhedloedd ddechrau yn Nulyn am 7.45pm heno.

Dyma’r trydydd tro i James Collins arwain ei wlad yn absenoldeb Craig Bellamy.

Fe benderfynodd Craig Bellamy roi’r gorau i fod yn gapten ar ei wlad am nad oedd yn gallu chwarae pob gêm, oherwydd problemau â’i bengliniau.

“Rydw i wrth fy modd bod y rheolwr wedi gofyn i mi fod yn gapten eto,” meddai James Collins.

Dywedodd ei fod yn gyffrous ynglŷn â dyfodol y tîm cenedlaethol dan arweiniad y rheolwr newydd Gary Speed.

“Roedd y garfan gyfan yn edmygu’r rheolwr pan oedd yn chwarae ac mae sawl un o’r bois wedi dilyn ei yrfa,” meddai.

“Roedd gan bawb barch mawr tuag ato hyd yn oed cyn iddo gael ei benodi, ac mae ei gael o’n hyfforddwr wedi bod yn hwb i bawb.

“R’yn ni wedi gweld gwahaniaeth mawr ar ôl ambell i sesiwn hyfforddi gyda’n gilydd.

“Mae Gary Speed yn frwdfrydig iawn ynglŷn â dyfodol pêl droed Cymru ac mae’r bois yn ei gefnogi.”

Croesawu Bellamy

Dywedodd James Collins ei fod yn gwerthfawrogi bod Craig Bellamy wedi teithio i Ddulyn cyn y gêm, er nad yw’n gallu chwarae.

“Mae’n dangos ei fod yn ymroddedig i Gymru,” meddai.

Cyfaddefodd James Collins nad oedd safon pêl-droed y tîm cenedlaethol wedi bod ar ei orau dros y blynyddoedd diwethaf ond bod pawb yn awyddus i newid hynny.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd ac mae’n rhaid i ni wella,” meddai. “Mae pawb yn edrych ymlaen at ddechrau da yn Nulyn.”

Tîm Cymru

1. Wayne Hennessey 2. Neal Eardley 3. Sam Ricketts 4. Danny Collins 5. James Collins       6. Andrew Crofts 7. David Vaughan 8. Andy King 9. Simon Church 10. Robert Earnshaw  11. Hal Robson-Kanu

Eilyddion-12. Jason Brown 13. Chris Gunter 14. Jermaine Easter 15. Freddy Eastwood 16. Joe Ledley 17. Ashley Williams 18. Andy Dorman 19. Darcy Blake 20. Sam Vokes 21. Lewin Nyatanga 23. Lewis Price.