Dave Jones
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud bod y gêm rhwng Caerdydd ac Abertawe yfory yn un mawr i’r ddau glwb.

Ond rhybuddiodd na ddylai ei chwaraewyr golli eu pennau oherwydd pwysigrwydd yr achlysur.

Mae’r gêm ddarbi ymysg y pwysicaf yn hanes y ddau glwb, wrth iddyn nhw frwydro am le ar frig y Bencampwriaeth.

Mae’r Elyrch yn y trydydd safle ar hyn o bryd, dau bwynt ar y blaen i’r Adar Glas sy’n clwydo yn y pumed safle, ond sydd â gêm ychwanegol i’w chwarae.

“Mae pawb yn y clwb yn gwybod mor bwysig yw’r gêm ddarbi yma,” meddai Dave Jones.

“Mae’n bwysig i ni oherwydd bod tri phwynt yn y fantol ac rydyn ni ei heisiau nhw.

“Cyd ddigwyddiad yw hi fod y gêm yn erbyn ein gwrthwynebwyr lleol, ac mae’n bwysig adg ydyn ni’n chwarae yn erbyn yr achlysur yn ogystal â’r tîm arall.”

Does dim sicrwydd y bydd Stephen McPhail a Seyi Olofinjana ar gael i chwarae dros Gaerdydd.

Fe fydd yr Elyrch heb Andrea Orlandi yn ogystal â’r amddiffynwyr Garry Monk a Neil Taylor.

“Rydw i’n eu parch nhw – mae gan Gaerdydd hyfforddwr a chwaraewyr gwych ac mae yna fygythiad yna,” meddai Brendan Rodgers, hyfforddwr Abertawe.

“Roedden ni’n wych yn erbyn Caerdydd yn gynharach yn y tymor ac rydyn ni’n gobeithio am berfformiad tebyg dydd Sul.”