Brian Flynn
Mae hyfforddwr tîm dan 21 oed Cymru, Brian Flynn, wedi dweud bod gan ei dîm siawns da o gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewropeaidd 2013 yn Israel.
Mae Cymru wedi eu gosod yn yr un grŵp a’r Weriniaeth Tsiec, Armenia, Montenegro ac Andorra.
“Mae’n grŵp yn anodd iawn, ond rwy’n siŵr bod gennym ni siawns da o fynd ymlaen i’r rowndiau terfynol,” meddai Brian Flynn.
“Rwy’n falch nad ydym ni mewn grŵp o chwech ac mae gennym ni eisoes brofiad o chwarae yn rhai o’r gwledydd sydd yn y grŵp.
“Mae’n gyfnod cyffrous ac mae angen i ni ddangos bod cenhedlaeth nesaf chwaraewyr Cymru yn gallu cymryd y cam nesaf a chyrraedd y rowndiau terfynol.”
Trefn y gemau
Fe fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn erbyn Andorra ar 29 Mawrth ac yn gorffen yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym mis Medi 2012.
29.03.2011. Andorra v Cymru
06.09.2011. Montenegro v Cymru
08.10.2011. Cymru v Montenegro
11.10.2011. Cymru v Gweriniaeth Tsiec
15.11.2011. Armenia v Cymru
29.02.2012. Cymru v Andorra
15.08.2012. Cymru v Armenia
10.09.2012. Gweriniaeth Tsiec v Cymru
Fe fydd lleoliadau’r gemau yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.