Craig Bellamy
Mae rhai o chwaraewyr Caerdydd a Reading wedi eu cyhuddo o gamymddwyn yn dilyn y gêm gyfartal nos Fawrth.

Mae’r Adar Glas yn wynebu dau gyhuddiad o fethu a rheoli eu chwaraewyr yn ystod ac ar ôl y gêm.

Mae capten y clwb, Craig Bellamy hefyd yn wynebu cyhuddiad o gamymddwyn yn y twnnel ar ddiwedd y gêm.

Mae Reading yn wynebu dau gyhuddiad tebyg ac mae eu chwaraewr Mikele Leigertwood wedi ei gyhuddo o ymddygiad treisgar.

Helynt gêm Chelsea

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi rhyddhau datganiad yn dweud eu bod nhw’n cefnogi ymchwiliadau Heddlu De Cymru a Heddlu’r Met i’r anrhefn yn ystod y gêm Cwpan yr FA yn erbyn Chelsea y llynedd.

Roedd cefnogwyr Chelsea a’r Adar Glas yn gyfrifol am yr helynt ar ôl y gêm ym mis Chwefror y llynedd.

Mae’r heddlu wedi bod yn ymchwilio i ganfod y rhai hynny oedd yn gyfrifol am yr anrhefn, ac wedi rhyddhau lluniau ohonynt.

“R’yn ni’n parhau i gydweithio’n agos gyda’r awdurdodau ac fe fyddwn ni’n gwahardd unrhyw unigolyn sy’n gyfrifol,” meddai datganiad gan Gaerdydd.

“Yn dilyn llawer o waith caled gan grwpiau cefnogwyr, yr awdurdodau a swyddogion y clwb dros y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi gwella ymddygiad ac enw da cefnogwyr y clwb.

“Mae’n siomedig bod lleiafrif sy’n honni eu bod nhw’n cefnogi’r clwb wedi mynd ati i achosi anrhefn. Ni fydd y math yma o ymddygiad yn cael ei groesawu na’i oddef gan Gaerdydd.”