Danny Gabbidon
O fewn deuddydd i gytuno i ddod yn ôl i garfan Cymru, mae Danny Gabbidon wedi cael ei anafu.

Fe fu’n rhaid i’r amddiffynnwr adael y cae yn ystod buddugoliaeth West Ham yn erbyn Blackpool ar ôl dim ond hanner awr.

Mae hynny’n golygu y bydd yn colli’r gêm Cwpan Celtaidd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Mae’r Cymro wedi datgelu ar ei gyfrif Twitter ei fod yn disgwyl fod allan am tua phythefnos ar ôl anafu llinyn y gar.

Roed wedi gobeithio chwarae i Gymru ar ôl i’r rheolwr newydd, Gary Speed, ei berswadio i ddychwelyd i chwarae i’r tîm rhyngwladol ar ôl dweud y llynedd ei fod yn ymddeol.

Dim enw newydd eto

Does dim son eto pwy fydd yn cymryd lle Gabbidon yn y garfan, ond mae Darcy Blake a Lewin Nyatanga ar y rhestr wrth gefn.

Mae Cymru eisoes heb Craig Bellamy, Gareth Bale a Steve Morison ar gyfer gêm gyntaf Speed wrth y llyw.