Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi gwadu bod ganddo ddiffyg angerdd tuag at y gemau darbi yn erbyn Abertawe.
Fe ddaw ei sylwadau ar ôl i rai o’r papurau lleol ei gyhuddo o fethu cydnabod pwysigrwydd gêm yn erbyn yr Elyrch i’r clwb.
Ond mae Dave Jones wedi dweud nad yw erioed wedi ystyried y gêm yn ddibwys a’i fod yn awchu i sicrhau’r fuddugoliaeth dydd Sul.
“Mae llawer o bethau wedi cael ei ysgrifennu amdanaf am yr hyn rwyf wedi dweud yn y gorffennol am y gemau darbi. Dw i erioed wedi dweud nad oedd y gêm ddim yn bwysig,” meddai Dave Jones.
“Rwyf innau a phawb o fewn y clwb yn ymwybodol o ba mor bwysig yw’r gemau darbi. Mae’r gêm yn erbyn Abertawe yn bwysig iawn i ni – mae yna dri phwynt ar gael ac ry’n ni’n awyddus i’w sicrhau.”
Mae Dave Jones yn cydnabod y bydd yn gêm anodd yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Liberty, ond ei fod yn gyfle da i roi hwb i’w gobeithio i ennill dyrchafiad.
“Mae Abertawe yn dîm da iawn, ac mae ein safleoedd yn y gynghrair yn ychwanegu at bwysigrwydd y gêm.
“Ry’n ni wedi chwarae yn erbyn sawl tîm sy’n chwarae system debyg i Abertawe – ond y gwahaniaeth yw bod Abertawe yn chwarae’r system yna’n well.
“Mae’r cyfan yn dod lawr i sicrhau’r pwyntiau llawn, ond ry’n ni’n gwybod bod teimlad gwahanol i’r gemau darbi.
“Mae’r cyfle yno i ni ennill a chymryd pwyntiau oddi ar un o’n gwrthwynebwyr am ddyrchafiad.
“Ry’n ni wedi cael canlyniadau da a siomedig yn erbyn hwy yn y gorffennol. Fe fydd y cyfan yn dod lawr i bwy sy’n goroesi eu nerfau a chwarae orau ar y dydd.”