Chris Coleman (Llun: PA)
Tommie Collins sy’n rhoi ei farn ar reolwr newydd Cymru…

Felly mae’r aros ar ben, mae Chris Coleman wedi cael ei benodi’n rheolwr  tîm pêl droed Cymru.

Dim sypreis yn y diwedd, ond a oedd yna unrhyw un arall â chystal cymhwyster a Coleman i gymryd y swydd ar ôl y diweddar Gary Speed?

Oes, mae llawer o rwtsh a phethe anghywir wedi eu dweud gan lawer o bobol yn ddiweddar, ond nid gan Coleman.  Eto mae llawer wedi ei farnu am fethiannau yn ei yrfa fel rheolwr … cyn gorfod ymddiheuro ar ôl gwneud eu gwaith cartref go iawn.

Gyrfa go’ lew

Nid tîm â llond sach o bres oedd Fulham, ond llwyddodd Coleman i orffen yn y nawfed safle yn yr Uwch Gynghrair yn ei dymor cyntaf. Wedi hynny, gadawodd rhai o chwaraewyr gorau’r clwb – Van der Sar a Louis Saha y rhai amlycaf – a gyda hynny collwyd y momentwm yr oedd wedi ei adeiladu  yn y tymhorau blaenorol

Aeth ymlaen i reoli Real Sociedad yng Ngwlad y Basg.  Fe adawodd Sociedad  oherwydd nad oedd yn cydweld â gweledigaeth y llywydd Badiola – nid oedd ganddo record ddrwg yno cyn hynny cofiwch, a gadawodd y tîm yn y pumed safle yn y gynghrair.

Y methiant mwyaf mae pawb yn sôn amdano ydy ei amser gyda Coventry. Fy marn i ar hyn ydy nad oedd y clwb mewn cyflwr da pan ymunodd ac roedd wastad yn mynd i fod yn dalcen caled.

Chwarae teg iddo, yn lle eistedd mewn stiwdio foethus Sky, penderfynodd Coleman i bacio ei fagiau er mwyn wynebu her yng Ngwlad Groeg. Larissa oedd y tîm – nid un o gewri Groeg, ond clwb  oedd wedi ennill y gynghrair unwaith yn eu hanes. Wrth gwrs, fe ymddiswydded wythnos cyn cael ei gyhoeddi’n rheolwr newydd Cymru – cyd-ddigwyddiad ta be?

Sefyllfa anodd

Yn ei gynhadledd i’r wasg  gyntaf roedd Coleman yn hyderus, yn drawiadol – ond hefyd yn drist.  Mae mewn sefyllfa unigryw, anodd a bron yn amhosib.

Petai’n colli ei gêm gyntaf, beth fydd y farn? Ai ar Coleman fydd ar fai? Os mai blas buddugoliaeth fydd ar y gêm gyntaf, ai’r farn fydd mai tîm Speed oedd yn chwarae?  Bydd yr un cwestiynau’n codi os cawn rediad da yn y gemau rhagbrofol.

Mae’r Gymdeithas bêl-droed wedi aros yn ddistaw a dangos cryn dipyn o barch ers marwolaeth Speed.  Er hynny, mae’r chwaraewyr presennol, cyn chwaraewyr ac un rhan o’r tîm hyfforddi sef Raymond Verheijen wedi mynegi barn, ac wedi siarad yn gyhoeddus yn ddiweddar.

Tybed a ydy ‘Dutch Ray’ wedi siarad ei hun allan o’i swydd? Mae’n  trydar yn gyson ac mae’n amlwg nad yw’n plesio pawb. Mae Coleman wedi cyhoeddi ei fod wedi cael sgwrs â rhai chwaraewyr, ond heb gael cyfle i siarad â’r tîm hyfforddi i gyd eto.

Mae hefyd wedi dweud mai yn y cefndir fydd ei le yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica fis nesaf.  Felly mae’n bosib mai aros bydd rhaid tan ar ôl y gêm, cyn i Coleman ddatgelu ei dîm hyfforddi terfynol.

Mae honiadau y bydd  Kit Symons, cyn chwaraewr Cymru, yn rhan o’i dim hyfforddi.  Mae Symons yn cael cryn hwyl yn hyfforddi gydag ieuenctid Fulham yn ddiweddar.

Gobeithio felly y bydd y wasg, a’r cefnogwyr yn dod ynghyd  i gefnogi Coleman yn ei swydd.

Dwi’n gobeithio y bydd Coleman a’r Gymdeithas  yn parhau â’u ‘roadshows’  ledled Cymru.

Gobeithio hefyd y bydd yn rhoi pwysau ar y chwaraewyr sy’n mynnu chwarae i dîm GB i newid eu meddwl a’u hagwedd.

Ac yn olaf, gobeithio y bydd y rheolwr newydd yn rhoi  rheswm i mi ymweld â Brasil yn 2014!