Dafydd Wyn Williams, gohebydd CPD Caerdydd fu’n gwylio buddugoliaeth yr Adar Gleision yn erbyn Crystal Palace neithiwr….

Anaml mae dyn yn cael croeso fel cefnogwr oddi cartref, a fel ’ny fuodd hi yn Croydon wrth fod fy mhresenoldeb yn eu tafarn hyd yn oed yn ddigon i gythruddo’r perchennog pan oeddwn i yn y dref i weld y gêm fawr yn erbyn Crystal Palace.

Roedd hi’n gêm fwy byth neithiwr wrth i’r Palas ddod i’r dref gyda gôl o fantais, i ddweud y gwir sai’n siwr mod i’n gor-ddweud hi pan dwi’n nodi taw gâm fwyaf y tymor pâl-droed hyd yn hyn oedd hon neithiwr yn Lecwydd.

Mae’n siŵr bod bron i bob un ohonoch chi wedi gweld y gêm yn fyw, unai yn y stadiwm neu ar y teledu, neithiwr felly byddwch chi’n cofio’r un fath a fi y peniad egniol gan Gunnarsson ym munudau olaf o’r amser ychwanegol, a byddech wedi rhyfeddu ar athrylith Miller i faeddu’r golgeidwad Speroni… ond i’r bêl ymlwybro heibio’r postyn pellaf.

Tynged o’r smotyn

Cicie o’r smotyn yn y diwedd oedd i ddewis tîm fyddai’n cyrraedd y rownd derfynol yng Nghwpan y Gynghrair, a chyn i’r gic gyntaf gael ei chymryd ysgrifennais fan hyn taw anlwc eto oedd hanes Caerdydd.

Ond, diolch i gicie di-brofiad Crystal Palace, ro’n i’n anghywir. Tom Heaton yw’r arwr heddiw wedi iddo gadw gafael ar ar grys y golwr yn y gwpan yma rhag Marshall sydd yn y gôl fel arfer. Cadwodd e lond sach o beli allan o’i rwyd neithiwr yn y gystadleuaeth cicie o’r smotyn a benderfynodd dynged y noson.

Llond coets fawr o glod i hogie ifanc y Palas, ac yn arbennig y deg dyn a lwyddodd i aros ar y cae, ond noson Caerdydd oedd hi o’r gôl gyntaf gan Gardner i’w rwyd ei hun.  Tipyn o hubris iddo wedi ei wen fawr ym mhrifddinas y Sais (gweler fy rhagolwg i’r gêm yma.)

Sai’n siŵr shwd groeso gafodd cefnogwyr Crystal Palace yn y dref neithiwr, ond mae’n siwr bod hi’n haws bod yn groesawgar wedi buddugoliaeth mor bwysig!

Tybed a fydd y cwpan ei hun yn cael croeso yn y brifddinas cyn diwedd y tymor?

Gall yr Adar Gleision hedfan yr holl ffordd lawr Wembley Way wedi neithiwr!