Un arall i Andy Morrell
Wrecsam 2 Altrincham 1

Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, wedi canmol ymdrech ei dîm ar ôl i’r Dreigiau guro Altrincham 2-1 ar y Cae Ras.

Dyma’r chweched fuddugoliaeth yn olynol i Wrecsam yn Uwch Gynghrair y Blue Square ac maen nhw bellach yn y pedwerydd safle yn yr adran.

Fe sgoriodd Andy Morrell y gôl gyntaf ddwy funud cyn yr egwyl i roi’r tîm cartref ar y blaen.

Ond bu rhaid aros tan bum munud o’r diwedd am yr ail gôl gan Adrian Cieslewicz ac fe aeth hi’n dynn eto ar Wrecsam ar ôl i Nicky Clee sgorio gyda’i ben i’r ymwelwyr.

Hapus

Er gwaethaf hynny, fe lwyddodd y Dreigiau i ddal eu tir ac ennill ac roedd Dean Saunders yn hapus gyda’r fuddugoliaeth.

“Roedden ni’n falch o ennill a dyna’r prif beth. Doedden ni ddim wedi dechrau’r gêm mor dda â’r arfer,” meddai Saunders.

“Roedd y cae ychydig yn anwastad ac roedd yn anodd lledu’r bêl i fynd y tu ôl i’r amddiffyn. Roedden ni’n edrych yn well ar ôl i ni godi’r tempo a sgorio’r gôl gyntaf.”

Canlyniadau eraill yn helpu

Roedd hefyd yn falch o weld timau eraill o amgylch Wrecsam yn colli tir – fe gollodd Fleetwood, sy’n bumed, i’r tîm ar y gwaelod, Histon, a dim ond pwynt a gafodd Grimsby sydd hefyd yn cystadlu am ddyrchafiad.

“Fe aeth sawl canlyniad y ffordd iawn i ni heddiw, felly’r fuddugoliaeth oedd y peth pwysig i ni ac mae’n rhaid i mi ganmol ymdrech y chwaraewyr hefyd,” meddai Saunders.