Malky Mackay
Gohebydd CPD Caerdydd, Dafydd Wyn Williams sy’n edrych ymlaen at y  g
êm rhwng  Caerdydd a’r Palas Gwydr

Fe ddaeth Siôn Corn a thedi Clwb Pêl Droed Caerdydd i Landochau Fach eleni i’r mab bach sydd gen i, ry ni’n galw’r arth yn Mal; yn fyr am ei enw go iawn ‘Malaysia’ sydd wedi ei sgwennu ar ei grys, a hefyd trwy gyd-ddigwyddiad mae’n ddigon tebyg i Malky sydd ar hyn o bryd yn arwain Caerdydd i dymor cofiadwy yn y gynghrair.

Ond wedi perfformiad gwelw Caerdydd yn Crystal Palace yng nghymal cyntaf y gêm gynderfynol Cwpan Carling, ry ni yn poeni bod Mal yr arth yn mascot digon lwcus i’r gynghrair, ond efallai nad yw ei dalentau yn ymestyn i Gwpan y Gynghrair.  Amser a ddengys.

Mae’n siŵr bod Malky Mackay ei hunan yn llai ofergoelus ac yn credu’n fwy taw pwy sy’n aros yn ei dim wedi llwyddiant munud-ola yn erbyn Portsmouth fydd yn fwy pwysig, ond mae’r edrychiad ar wyneb Mal y tedi yn dangos yn glir i mi fod e’n gwybod mwy na mae’n fodlon dweud.

Mae gan Mackay ambell i ddewis anodd serch hynny; a fydd Conway yn cael cic arall wedi ei fellten a gurodd Portsmouth Ddydd Sadwrn?  Ydy Darcy Blake yn ddigon da i droedio ar faes y prifddinas wedi ei ymddangosiad prin yn Croydon?

Un o fy hoff straeon o’r cymal cyntaf oedd geiriau cellweirus y gohebydd a roddodd y siampên i Anthony Gardner ar ddiwedd y gêm wedi iddo sgorio’r gôl sydd wedi rhoi Crystal Palace ar y blaen.

Heb ailadrodd yr holl Saesneg yn ei hyd, awgrymodd y gohebydd yn gryf fod y botel “MoM” welodd yn nhŷ Gardner wrth gyfweld ag ef cyn y gêm wedi bod yna ar ben ei hun yn ddigon hir a’i bod hi’n hen bryd iddo ychwanegu i’w gasgliad.  Er hynny, derbyniodd Gardner y MoM, y clod a’r champagne gyda gwên gan ei fod ef yn gwybod yn iawn taw ei dim ef sydd yn gam yn nes at Wembley na Chaerdydd, er yr holl sôn am y fantais o gael yr ail gymal yng Nghaerdydd.

Does dim yn cyfri tan fod y bêl yn y rhwyd, a dim ond CPs (fel o’n i’n galw Crystal Palace yn Aberystwyth ers talwm!) sydd wedi llwyddo i wneud hynny.

Doedd y gêm gyntaf ddim yn llawn cyffro ond mae ambell i atgof gen i o’r hyn dwi’n edrych ymlaen at weld Nos Fawrth:

Sut fydd Darren Ambrose yn ymateb i Rawles ar ôl i hwnnw gymryd y garden felen am drosedd sinigaidd yn y cymal cyntaf? Ambrose, wrth gwrs, sgoriodd y gôl dyngedfennol, anghredadwy yn erbyn cochion Manceinion ac mae’n rhaid bod ganddo obaith y bydd hwnnw yn ymddangos ymysg uchafbwyntiau’r gystadleuaeth, pe bai ei dîm yn cyrraedd Wembley.

Weithiau mae dyn yn teimlo ei fod yn gallu rhagweld y pethau ma o flaen llaw; ac i ddweud y gwir fy nheimlad i yw y bydd gan CPs ddigon i faeddu Caerdydd  dros y ddau gymal, ond y bydd hynny yn gwneud y bechgyn yn fwy penderfynol i gyrraedd yr Uwch Gynghrair gyda Britton a gweddill y chwaraewyr sy’n serennu dan lygaid y byd yno!

Wedi dweud hynny, cafodd Kenny Miller andros o anlwc yn y cymal cyntaf bod ei gôl ef wedi cael ei ddyfarnu yn annheg ar ôl cic gornel i Gaerdydd, dim ond y dyfarnwr welodd y drosedd yna ar y noswaith. Efallai bydd y lwc a’r anlwc yn cael eu rhannu’n gyfartal dros y ddau gymal?

Tacteg CPs ar y noson hynny oedd i adael i Gaerdydd chwarae, ond heb ildio gormod o dir, ac felly heblaw corneli/cicie rhydd anaml oedd y Gleision yn edrych yn beryg.

Ar ôl y gêm dwedodd rheolwr CPs ei fod yn hapus i deithio oddi cartref a cheisio curo’r Adar Gleision, ond unwaith byddant ar y maes bydd pob un o’i chwaraewyr yn cofio’r maths syml y byddent yn cyrraedd Wembley os nad ydynt yn ildio gôl a dyna fydd yn rheoli ei chwarae go iawn.

Bydd yn rhaid i Gaerdydd fod yn fwy o fos ar y gêm nad oeddent yn Llundain, ac nid Mal y tedi-bêr na Malky Mackay fydd yn gyfrifol am hynny, ond yr unarddeg sy’n cael eu dewis.  Pob lwc bois!

A chofiwch hanes y Balas Gwydr; roedd e’n edrych yn bert am sbel; ond digon hawdd ei ddymchwel wedi  ‘ny, er gymaint y ffwdan amdano!