Craig Bellamy - sgorio ar y diwedd yn deg
Caerdydd 2 Reading 2

Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi canmol ei dîm am beidio ag ildio ar ôl i’r Adar Glas gipio pwynt hwyr yn erbyn Reading yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe sgoriodd Craig Bellamy o gic rydd wedi saith munud o amser ychwanegol i unioni’r sgôr a chipio pwynt i Gaerdydd.

Er hynny, mae clwb y brifddinas wedi syrthio i’r pumed safle yn y Bencampwriaeth.

Roedd yr ymwelwyr wedi mynd ar y blaen wedi 21 munud ar ôl i ymdrech 25 llath Mikele Leigertwood gwyro heibio i Tom Heaton yn y gôl.

Fe drawodd Caerdydd yn ôl i unioni’r sgôr dair munud wedi’r egwyl gyda Jay Bothroyd yn manteisio ar gic wael gan golwr Reading, Adam Federici.

Gyda’r dyfarnwr yn chwarae amser ychwanegol ar ddiwedd y 90 munud fe sgoriodd Mathieu Manset i roi Reading yn ôl ar y blaen cyn i Bellamy sicrhau’r gêm gyfartal.

‘Dim ildio’

“Mae gyda ni’r agwedd o beidio â rhoi’r gorau iddi,” meddai Dave Jones wedyn. “Fe fyddai wedi bod yn ergyd i golli’r gêm, ond r’y ni wedi cael pwynt ac fe allai fod yn allweddol i ni.

“Roedden ni’n edrych yn ormod o unigolion yn yr hanner cyntaf. Roedden ni’n rhy agored ac mae hynny’n rhywbeth y bydd rhaid i ni weithio arno”

“Mae Reading yn dîm da ac r’yn ni wedi gweithio’n galed am y pwynt. Rwy’n gwybod y bydd pobol yn meddwl y dylen ni fod yn curo pawb yn hawdd, ond dyw hynny ddim yn gweithio ar y lefel yma.”

‘Angen amddiffyn yn well’

Roedd Dave Jones y siomedig gyda’r ffordd y sgoriodd Reading eu dwy gôl gan nodi pwysigrwydd amddiffyn cadarn.

“R’yn ni’n dda wrth ymosod ond ar y cyfan mae’n rhaid i ni fod yn fwy cadarn nag oedden ni yn erbyn Reading. Roedd y ffordd y sgoriodd Reading eu goliau’n siomedig i ni – mae’n rhaid i ni fod yn well”

Dyma’r bedwaredd gêm gartref yn olynol mae Caerdydd wedi methu â’u hennill. Fe fydd yr Adar Glas yn wynebu Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.