Robbie Savage
Fe fydd chwaraewr canol cae Derby, Robbie Savage, yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Fe gyhoeddodd y Cymro ei fod wedi penderfynu ymddeol ar ei gyfrif Twitter neithiwr.

Cychwynnodd Savage, sy’n 36 oed, ei yrfa gyda Man Utd cyn symud i Crewe.

Daeth i’r amlwg ar y lefel uchaf yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda Chaerlŷr cyn symud ymlaen i Birmingham a Blackburn.

Enillodd 39 cap dros Gymru cyn i ffrae gyda’r hyfforddwr, John Toshack, ddod a’i yrfa ryngwladol i ben yn gynnar.

Roedd Robbie Savage wedi ei gysylltu gyda throsglwyddiad i Ganada i chwarae gyda’r Vancouver Whitecaps yn yr MLS tymor nesaf.

Ond fe gyhoeddodd y chwaraewr canol cae na fyddai’n symud i Ganada ar ôl trafod gyda’i deulu.

Mae Savage eisoes wedi dechrau ar yrfa sylwebu ac mae’n bwriadu canolbwyntio ar hynny pan fydd ei yrfa yn dod i ben.