Gwledd o Goliau yng Ngêm Olaf Ffordd Farrar

Diweddarwyd am  

Y cefnogwyr ar y cae gyda Les Davies

Bangor 5-3 Prestatyn

Cafodd torf enfawr Ffordd Farrar ffarwelio mewn steil heddiw gyda gwledd o goliau yn stadiwm chwedlonol Clwb Pêl Droed Dinas Bangor. Daeth dros ddwy fil a hanner o gefnogwyr i weld y gêm yn erbyn Prestatyn – gêm olaf y clwb ar y cae y maent wedi bod yn chwarae eu gemau cartref arno ers 91 o flynyddoedd.

Bangor yn Rheoli

Roedd Bangor yn llwyr reoli yn yr ugain munud agoriadol a doedd fawr o syndod eu bod ddwy gôl ar y blaen ar ôl chwarter cyntaf y gêm. Daeth y gyntaf o’r rheiny wedi dim ond dau funud. Peniodd Jamie Brewerton y bêl tuag at y gôl cyn i Les Davies ei phenio o ddwy lath i wneud yn siwr ei bod yn mynd heibio i David Roberts yn y gôl i Brestatyn.

Daeth Brewerton yn agos at ychwanegu ail ychydig funudau yn ddiweddarach ond tarodd ei beniad yn erbyn y trawst. Daeth Dave Morley yn agos hefyd ond gwnaeth amddiffynnwr Prestatyn yn dda i atal ei ergyd nerthol.

Daeth yr ail wedi 20 munud diolch i ddyfalbarhad Sion Edwards.  Llithrodd Edwards a’r amddiffynnwr yng nghwrt cosbi Prestatyn ond asgellwr Bangor a gododd gyntaf cyn anelu’r bêl heibio i Roberts i ddyblu mantais y Dinasyddion.

Prestatyn yn Taro’n Ôl

Dechreuodd yr ymwelwyr ddod yn ôl i’r gêm wedi hynny a chawsant eu gwobrwyo wedi 26 munud pan sgoriodd y chwaraewr reolwr, Neil Gibson, i’w gwneud hi’n 2-1.

Cafodd Chris Jones gyfle i sgorio trydedd Bangor yn fuan wedyn yn dilyn sodliad celfydd Kyle Wilson ond gwnaeth David Hayes yn wych i atal yr ergyd. A daeth Ross Stephens yn agos i Brestatyn hefyd yn hwyr yn yr hanner ond arbedodd Lee Idzi yn gampus.

Hanner cyntaf gwych ar y cae felly ond braidd yn siomedig oedd gweld ychydig o anghydfod rhwng rhai o gefnogwyr y ddau dîm tu ôl i gôl Bangor yn ystod yr hanner.

Yr Ail Hanner

Ni welwyd mwy o drafferthion ar y teras yn yr ail hanner ond parhau a wnaeth y tân gwyllt ar y cae wrth i Fangor bwyso unwaith eto. Arbedodd Roberts hanner foli Sion Edwards a saethodd Wilson dros y trawst o 20 llath cyn i Morley rwydo trydedd y tîm cartref ar yr awr.

Hon oedd gôl orau’r gêm hefyd, ergyd nerthol o 25 llath yn mynd yn syth i gornel uchaf y rhwyd a dim gobaith i Roberts yn y gôl.

Roedd amddiffyn Prestatyn ar chwâl yn awr a bu bron i Craig Garside benio’r bedwaredd yn dilyn croesiad gwych Wilson funud yn ddiweddarach. Ond fu dim rhaid i Garside aros yn hir am ei gôl. Gwnaeth Chris Jones waith da ar ochr dde’r cwrt cosbi cyn croesi’r bêl ar draws ceg y gôl ac er i Wilson fethu a chael ei droed arni roedd Garside yn y lle iawn i rwydo o dair llath. 4-1 i Fangor wedi 63 munud.

Roedd Prestatyn yn ôl yn y gêm dri munud yn ddiweddarach wedi i Stephens sgorio o’r smotyn yn dilyn llawiad Brewerton yn y bocs.

Sicrhau’r Fuddugoliaeth

Ond sicrhaodd Bangor y tri phwynt gyda’r bumed gôl wedi 70 munud, llanast amddiffynnol yng nghwrt chwech Prestatyn a’r bêl yn disgyn yn daclus i Morley ac yntau’n sgorio ei ail gôl mewn deg munud.

Fe wnaeth Prestatyn daro’n ôl eto wedyn gyda gôl daclus iawn i Michael Parker wedi 77 munud ond wnaethon nhw ddim bygwth llawer wedi hynny.

Yn wir, os oedd un tîm am sgorio eto yn y deg munud olaf Bangor oedd hwnnw. Bu rhaid i Roberts arbed ergyd nerthol Davies a daeth yr eilydd, Alan Bull, yn hynod agos hefyd.

Ond bu rhaid i Fangor fodloni ar bum gôl a thri phwynt yn y diwedd, tri phwynt sydd yn eu codi yn ôl i frig yr Uwch Gynghrair. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn aros yn chweched.

Heidiodd y cefnogwyr ar y cae ar ddiwedd y gêm er mwyn dathlu’r diwrnod hanesyddol gyda’r chwaraewyr. Ac os all y Dinasyddion chwarae cystal ar ôl symud i’r cae newydd yn Nantporth yn y flwyddyn newydd efallai y gwelwn y cefnogwyr yn heidio i’r cae yn y fan honno hefyd ar ddiwedd y tymor.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd