Caerfyrddin 2-5 Lido Afan

Roedd gêm y penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru ym Mharc Waun Dew nos Wener ble rhoddodd Lido Afan grasfa i Gaerfyrddin.

Rhoddodd Marc Jones Lido ar y blaen gyda gôl flêr wedi chwarter awr o chwarae. Dyblodd yr un chwaraewr fantais yr ymwelwyr chwe munud yn ddiweddarach gyda gôl yr un mor flêr o safbwynt Caerfyrddin.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i Gaerfyrddin ddau funud cyn yr egwyl pan sgoriodd Corey Thomas gydag ergyd gywir o 16 llath. Ond pharodd y llygedyn hwnnw ddim yn hir gan i Mark Jones gael ei lorio yn y cwrt cosbi funud yn ddiweddarach. Sgoriodd Andrew Hill y gic o’r smotyn i’w gwneud hi’n 3-1 ar yr egwyl.

Roedd y gêm yn saff wedi deg munud o’r ail hanner ar ôl i Hill sgorio’i ail. Tarodd Caerfyrddin yn ôl gyda gôl gan Steffan Williams yn fuan wedyn ond Lido Afan a gafodd y gair olaf saith munud o’r diwedd wrth i Mark Jones fanteisio ar smonach amddiffynnol arall i benio’i hatric.

Mae Lido yn aros yn y nawfed safle yn dilyn y fuddugoliaeth ond yn cau’r bwlch ar Bort Talbot sydd yn wythfed, ond mae Caerfyrddin ar y llaw arall yn aros ar waelod y tabl.

 

Y Seintiau Newydd 3-1 Airbus

Cafodd Carl Darlington a Scott Ruscoe’r dechrau perffaith i’w cyfnod fel rheolwyr dros dro Y Seintiau Newydd gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Airbus yn Neuadd y Parc nos Wener.

Cafwyd hanner cyntaf di sgôr ond agorodd Alex Darlington y sgorio i’r tîm cartref wedi dim ond chwe munud o’r ail hanner gydag ergyd gywir o 20 llath.

Unionodd Ian Sheridan y sgôr wedi 71 munud gyda pheniad da yn dilyn croesiad gwych Adam Worton o’r chwith. Ond adferodd Matty Williams fantais y Seintiau dri munud yn ddiweddarach wrth orffen gwrthymosodiad da cyn i Chris Seargeant selio’r fuddugoliaeth gydag ergyd ragorol o 25 llath.

Mae’r Seintiau bellach yn ail diolch i’r fuddugoliaeth ac mae Airbus yn aros yn seithfed.

 

Drenewydd 2-1 Bangor

Cafwyd sioc y penwythnos ym Mharc Latham brynhawn Sadwrn wrth i Drenewydd guro’r tîm ar y brig, Bangor.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond saith munud diolch i gôl Zac Evans o ddeg llath. A bu bron i’r Drenewydd ddyblu eu mantais ond tarodd ymdrechion Evans a Nick Rushton yn erbyn y postyn.

Unionodd Bangor y sgôr yn fuan yn yr ail hanner, Les Davies gyda’i chweched gôl o’r tymor.

Ond y tîm o’r canolbarth aeth a hi gyda llai na deg munud yn weddill diolch i gôl wych Gareth Partridge. Sgoriodd yr ymosodwr ifanc gydag ergyd o 30 llath i ennill y gêm i’r Drenewydd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Bernard McNally allan o safleoedd y gwymp i’r degfed safle yn y tabl tra mae Bangor yn disgyn o’r brig i’r trydydd safle.

 

Port Talbot 0-1 Llanelli

Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Lanelli yn erbyn Port Talbot yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn. Gôl y capten, Stuart Jones wedi awr o chwarae oedd yr unig ddigwyddiad o bwys ar brynhawn gwlyb a gwyntog ym Mhort Talbot.

 

Bala 0-0 Castell Nedd

Di sgôr oedd hi yn y frwydr rhwng y timau yn y pumed a’r pedwerydd safle ar Faes Tegid brynhawn Sul.

Ni chafwyd dim goliau yn y Bala ond cafwyd digon o gyffro wrth i’r ddau dîm daro’r postyn ar ddau achlysur. Tarodd Craig Hughes a Chris Jones y pren i Gastell Nedd cyn i Rhys Darlington a Steff Edwards daro’r postyn i’r tîm cartref.

Nid yw’r gêm gyfartal yn cael unrhyw effaith ar y tabl wrth i Gastell Nedd aros yn y pedwerydd safle a’r Bala’n bumed.

 

Prestatyn 1-0 Aberystwyth

Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Brestatyn yn erbyn Aberystwyth yng Ngherddi Bastion brynhawn Sul.

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd mewn hanner cyntaf digon diflas ond fe wnaeth Ross Stephens daro’r trawst i’r tîm cartref.

Daeth y gôl dyngedfennol wedi 54 munud wrth i Steve Rodgers orffen yn dda. Cafodd Neil Gibson ddau gyfle i ddyblu mantais Prestatyn yn hwyr yn y gêm ond roedd yr un gôl yn ddigon i Brestatyn.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi wyth pwynt o fantais i Brestatyn yn y chweched safle gyda dim ond pedair gêm ar ôl cyn y toriad. Mae Aber ar y llaw arall yn disgyn yn ôl i’r unfed safle ar ddeg.

 

Aberystwyth 1-1 Lido Afan

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Aberystwyth groesawu Lido Afan i Goedlen y Parc nos Fawrth.

Rhoddodd Sean Thornton y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond pedwar munud wedi i Andy Parkinson greu cyfle iddo. Ond tarodd Lido yn ôl hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda gôl gan Mark Jones.

Cafodd Andy Hill, Jones a Daniel Thomas gyfleoedd i roi Lido ar y blaen yn yr ail hanner cyn i Geoff Kellaway a James McCarten fethu cyfleoedd i ennill y gêm i Aber wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae’r canlyniad yn codi Lido dros Bort Talbot i’r wythfed safle ac yn cadw Aber yn yr unfed safle ar ddeg.