Mae cyn-ymosodwr Cymru, Gareth Taylor, wedi cael ei benodi fel rheolwr newydd tîm pel-droed merched Manchester City, gan arwyddo cytundeb tair blynedd.

Mae wedi arwain tîm o dan 18 oed y clwb ers tair blynedd ac roedd yn rheolwr y tîm o dan 16 cyn hynny.

Yn ymosodwr yn ystod ei ddyddiau chwarae, gwnaeth y cyn-chwaraewr Cymru 650 ymddangosiad yn ystod ei yrfa chwarae.

Chwaraeodd 55 gwaith i Manchester City rhwng 1998 a 2001, gan gynnwys buddugoliaeth y clwb yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Gynghrair yn erbyn Gillingham yn 1999.

Ar ôl ymddeol gyda Wrecsam yn 2011, dychwelodd i Mnchester City fel hyfforddwr, gan arwain tîm o dan 16 y clwb am bum mlynedd cyn symud i’r tîm o dan 18 yn 2017.

Enillodd ddwy Gwpan yr Uwch Gynghrair o dan 18 yn olynol gyda’r tîm yn 2019 a 2020.

“Mae’n fraint cael fy mhenodi yn y rôl hon a dwi methu disgwyl i ddechrau ein paratoadau am dymor cyffrous arall yn 2020/21,” meddai Gareth Taylor